Skip to main content
Distance icon

Pellter
19km / 11.81milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO 215189

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
5 awr 30 mun

4

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Cafe icon
  • Shopping icon
  • Parking icon
  • Disabled parking icon
  • WC icon
  • WC icon

Mae’r ddringfa allan o Grucywel at ymyl Pen Cerrig-calch yn fwy esmwyth. Er nad yw’r llwybr hwn wedi codi’n uchel, mae golygfeydd hyfryd o’r dirwedd wledig ac Afon Wysg yn ymdroelli’n ddiog. Byddwch yn dod i lawr i bentref Cwm Du ac i fyny at Flaen-y-cwm ar hyd lonydd tawel, cul, cyn dringo unwaith eto i gopa Cefn Moel a bryn agored. Oddi yma, fe welwch chi Lyn Syfaddan islaw. Llyn hollol naturiol ydi hwn a ffurfiwyd yn Oes yr Iâ. Mae hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd dyma’r unig lyn ewtroffig naturiol sydd yng Nghymru, ac mae o bwysigrwydd cenedlaethol os nad rhyngwladol. Gallwch orffen y diwrnod naill ai yn y Bwlch neu Langynidr, lle mae’r llwybr yn croesi pont gul, hynafol ysblennydd.

Of interest

Gadewch Grucywel ar hyd y lôn sydd ar ochr ogledd-orllewinol y dref – mae’n dilyn y nant i fyny o’r lloches bws addurnedig. Ewch heibio un fferm, ac ar hyd y traciau i’r fferm nesaf (gan fynd ar y dde drwy’r caeau o amgylch y fferm). Parhewch i ddilyn y lon drol furiog i’r chwith, i fyny rhwng y caeau, i gyrraedd y bryn agored.

Mae’r llwybr erbyn hyn yn troelli ar hyd ochr y bryn, o gwmpas Cwm Mawr (lle gwelwch chi faen coffa i John Sansom) cyn cychwyn ar i lawr tuag at bentref Cwm Du, ar hyd lonydd trol fferm a lonydd gwledig. Yn y pentref, rydych chi wedi cyrraedd hanner ffordd y daith heddiw, ac mae ganddo gaffi a thafarn i’ch helpu i adnewyddu a chael ail wynt. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r briffordd yn ymyl y dafarn, a dilynwch y lôn gyferbyn am ychydig, cyn defnyddio’r llwybr fydd yn mynd drwy gaeau i’r lôn nesaf. Dilynwch hon i fyny, cyn mynd ar lwybr arall sy’n eich arwain at fryn agored yn ymyl yr ail fferm. Bydd hwn yn eich arwain ar hyd llwybr serth i gopa Cefn Moel, gyda golygfeydd gwych dros lyn godidog Syfaddan. Oddi yma, gallwch ddilyn y traciau’n hawdd ar hyd y grib sydd ar y chwith, ac fe ddewch i lawr i’r Bwlch, lle mae llety a thafarnau.

Croeswch y briffordd brysur yn ofalus, a dilynwch y lôn wrth ymyl y dafarn. Yna, cymerwch y llwybr ar y chwith, sy’n arwain dros gaeau i’r gyffordd. Bydd y ffordd ar y dde yn mynd â chi i lawr, a dros y bont ffordd hynafol (un o’r rhai gorau yng Nghymru) i Langynidr – dwy dafarn yma ond prin ydy’r llety. Bydd bws neu dacsi’n gallu eich cludo i Dalybont, lle mae mwy o gyfleusterau ar gael.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf