I’r rhai sy’n chwilio am ychydig o antur…
Pellter
6.9km / 4.29milltir
Cyfeirnod grid OS SO215182
Postcode NP8 1AR
Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)
Approximate time
2 awr
Gradd tro
(5 = Hardest)
Os am newid o’r atyniadau yn nhref Crucywel gallwch fynd am dro ar hyd y daith gerdded braf hon yn yr iseldir ar hyd glannau’r Wysg un ffordd a nôl ar hyd y gamlas y ffordd arall. Taith gerdded gradd 3 yw hon: Llwybrau â goleddfau hir achlysurol, wyneb garw i’r llwybr a gatiau mochyn neu gamfeydd. Nid oes seddi.
Mwynhewch harddwch y coed gwern a’r pren helyg ar hyd glan Afon Wysg wrth iddi ymdroelli’n araf ar ei thaith. Byddai binocwlars yn syniad da yma i ganfod adar y dŵr sydd wedi gwneud eu cartref yma, trigolion fel bronwen y dŵr, y siglen lwyd, yr hwyaden ddanheddog a hyd yn oed las y dorlan. Maent yn un rhan o ecosystem gyfoethog yr afon law yn llaw â heigiau o bysgod, yn eu plith eog, gwangod, silod a llysywod pendwll. Wedi’r cyfan, mae enw’r afon yn ôl pob tebyg yn deillio o ‘pysg’ sef gair arall am bysgod. Fyddwch chi ddim yn gallu anwybyddu’r ddwy bont drawiadol: Pont y Tŵr wrth i chi gyrraedd Parc Glan Wysg a Phont Crucywel ei hun, y bont garreg hiraf yng Nghymru yn ôl y sôn. Aros mae’r mynyddoedd mawr yn eu hunfan o boptu’r afon fodd bynnag, gan roi cefnlen llawn cymeriad i’ch taith yn ôl ar hyd llwybr y gamlas dan gysgod canghennau Coed Ffawyddog.
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol