Skip to main content

Fel un o’r sioeau stoc gorau yn Ewrop, bydd y Ffair Aeaf yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.

 

Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol.

 

Bydd y neuadd fwyd yn cael ei llenwi gan gynhyrchwyr gorau Cymru yn dangos eu cynnyrch ac yn temptio ymwelwyr i roi cynnig ar yr amrywiaeth o ddanteithion hyfryd sydd ar gael.

 

Mae’r Ffair Aeaf yn cael ei gynnal o’r 25ain – 26ain Tachwedd 2025

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf

Siop Ar-lein y Parc Cenedlaethol

Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol

Ymweld â'n siop