Skip to main content

Beth yw Parc Cenedlaethol?

Yn y DU, mae parciau cenedlaethol yn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol sy'n elwa ar amddiffyniad a rheolaeth arbennig, gyda chyfleoedd gwych i bawb fwynhau'r awyr agored.

Mae 14 parc cenedlaethol yn y DU, tri ohonynt yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Eryri ac Arfordir Sir Benfro.

Mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yma I:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y parciau
  • Hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o'u rhinweddau arbennig
  • Meithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau o fewn eu ffiniau

Mae timau penodol yn gofalu am gefn gwlad a'r amgylchedd adeiledig mewn partneriaeth â llawer o rai eraill. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth siapio'r dirwedd trwy gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddiogelu ei nodweddion arbennig a chynllunio ei dyfodol.

Am Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn awdurdod lleol pwrpas arbennig sy'n gweithredu o fewn llywodraeth leol. Gyda chefnogaeth staff arbenigol, mae ei aelodau yn gyfrifol am wneud penderfyniadau, gosod polisïau a blaenoriaethau a sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau.

Penodir dwy ran o dair o'r aelodau gan awdurdodau unedol o fewn ffin ein Parc ac mae traean yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae llawer o waith yr Awdurdod yn cael ei wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill sydd hefyd â dyletswydd i ystyried pwrpasau'r Parc Cenedlaethol yn eu penderfyniadau.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf