Ein Parc Cenedlaethol
Gyda mynyddoedd a rhostiroedd, meini hirion a chestyll, rhaeadrau bywiog a chymunedau bywiog, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddigonedd i gynnig i drigolion ac ymwelwyr. Mae gennym hanes hir a lliwgar a chwedloniaeth a diwylliant cyfoethog ac amrywiol.
Mae ein Parc Cenedlaethol oddeutu 42 milltir o led. Yn gyfan gwbl, mae'n cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o Dde a Chanolbarth Cymru, ychydig i'r gorllewin o Swydd Henffordd, ac mae'n cynnwys rhannau o Bowys, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Rhondda a Merthyr Tudful. Mae'n cael ei enw o Fannau Canolog, sy'n dominyddu'r nenlinell i'r de o Aberhonddu. Maent yn codi i 886 metr ym Mhen y Fan, y copa uchaf yn ne Prydain.
Mae rhai o'r traddodiadau a fu'n helpu ac yn siapio ein tirluniau a'n bywydau bob dydd wedi pylu gydag amser; mae eraill yn parhau heddiw.
Mae ein awyr nos yn rhyfeddol. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth i ni fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Mae ein treftadaeth ddiwydiannol yn wych: mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Ac mae ein creigiau yn adrodd eu stori eu hunain. Maent mor unigryw fel bod rhan fawr o'n Parc Cenedlaethol wedi ei ddynodi'n Geoparc Ewropeaidd a Byd-eang.