Cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Cerdded
Boed yn well gennych gerdded yn hamddenol gan fwynhau’r rhyfeddodau y dowch ar eu traws neu gamu’n egnïol i fyny’r llethrau i glywed eich calon yn curo, byddwch yn sicr o ddod o hyd i daith gerdded aiff â’ch bryd o fewn pellter rhwydd i’ch man cychwyn yma yn y Bannau.
Does dim llawer all gymharu â hamddena ar hyd llwybr camlas neu lan afon, darganfod cwrlid o flodau gwyllt mewn coedwig, cael eich gwobrwyo â’r golygfeydd sydd i’w gweld o gopaon un o’n mynyddoedd neu gael eich syfrdanu gan ein ffurfafen serennog yn y nos. Chwiliwch drwy’r teithiau cerdded graddedig yn y Parc Cenedlaethol ar y map i ddod o hyd i daith sydd yn iawn i chi nawr.
Dyma sut rydym wedi graddio’n llwybrau ni:
Gradd 1 | Llwybrau bron yn gwbl wastad sy’n rhydd rhag rhwystrau a chanddynt arwynebeddau caled neu gywasgedig. Efallai fod seddau i’w cael. |
Gradd 2 | Llwybrau â goleddfau ysgafn o dro i dro, ychydig yn fwy rhydd neu fwdlyd dan draed gyda gatiau ond dim camfeydd. Mae prinder llefydd i eistedd. |
Gradd 3 | Llwybrau â goleddfau achlysurol sydd yn hwy neu’n fwy serth, yn gul mewn mannau, arwynebeddau gwael a gatiau mochyn neu gamfeydd. Efallai nad oes seddau. |
Gradd 4 | Llwybrau â rhai rhannau cul, goleddfau serth neu arwynebeddau mwdlyd neu garegog. Gall gatiau fod yn gul neu efallai fod camfeydd. Does dim seddau. |
Gradd 5 | Llwybrau â chamfeydd neu risiau, goleddfau serth, tir corsiog a rhannau yn agored gyda’r tir yn disgyn yn serth o ymyl y llwybr. |