Bwyd a diod o’n marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, poptai a delis
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn drysorfa go iawn o gynnyrch o safon. Gall danteithion blasus fel ein wisgi, caws a siocled lleol fod yn rhoddion hyfryd, ac mae’n hawdd rhoi picnic ynghyd efo nwyddau ffres.
Yn sicr, mae’n werth siopa yn lleol pan rydych ym Mannau Brycheiniog. Rydym yn adnabyddus am ein cig oen mynydd rhagorol (edrychwch allan am ein defaid Brycheiniog, y brid lleol), bîff, cig carw a chynnyrch wedi’u fygu o bob math. Mae gennym gaws lleol fel Y Fenni, Sant Illtyd (a dreuliodd lawer o amser yn yr ardal) a chaws Pwll Mawr (sydd yn aeddfedu mewn pwll glo). Rydych yn siŵr o garu ein sudd afal, seidr, wisgi, dŵr mwynol a hufen iâ blasus hefyd.
I ddarllen am ein cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, ymwelwch â’n tudalen Cynhyrchwyr unigryw lleol ac arbenigeddau coginio. I gael gwybodaeth am ein hystod lawn o fwytai, tafarndai, caffis a siopau te, ymwelwch â’n hadran Bwyta ac Yfed.
Marchnadoedd ffermwyr a marchnadoedd gwledig
Mae marchnadoedd rheolaidd ein Ffermwyr a’n ffeiriau bwyd yn dod â’n ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr crefft lleol gorau ynghyd o dan yr un to. Maen nhw’n achlysuron cyfeillgar. Gallech gwrdd â’r gwneuthurwyr, blasu eu nwyddau a llenwi’ch bag siopa efo nwyddau megis caws, mêl, selsig, perlysiau, siytni a bara lawr. Beth all fod yn well?
Marchnadoedd misol
Marchnad Wledig Talgarth
Neuadd y dre Talgarth, Y Sgwâr, Talgarth LD3 0BW, Cymru
Dydd Sul Cyntaf o bob mis, 10am -1pm
Marchnad Ffermwyr Aberhonddu
Marchnad Neuadd Aberhonddu, Stryd y Farchnad, Aberhonddu LD3 9AH, Cymru
Ail Ddydd Sadwrn o bob mis, 10am -2pm
Marchnad Ffermwyr Y Fenni
Neuadd Marchnad y Fenni, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5EU, Cymru
Pedwerydd Dydd Iau o bob mis, 9.30am -2.30pm
Marchnad Ffermwyr Llanymddyfri
Sgwâr Marchnad Llanymddyfri, Llanymddyfri SA20 0AW, Cymru
Dydd Sadwrn olaf o bob mis, 9am -2pm
Marchnad Ffermwyr Misol Neuadd Gymunedol Myddfai
Canolfan Gymunedol a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0JD
Sul olaf pob mis (ac eithrio Rhagfyr) 12pm – 3pm
Parc Gwledig Craig-y-nos Farchnad Ffermwyr
Fford Aberhonddu, Penycae, Cwm Tawe SA9 1GL
Bydd Marchnad Ffermwyr Craig-y-nos yn cael ei chynnal bob ail Sul o'r mis 11AM - 3PM
Marchnadoedd wythnosol
Marchnad y Fenni
Neuadd Marchnad Y Fenni, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5EU, Cymru
Pob Dydd Mawrth, Gwener a Sadwrn, 6am -5pm
Marchnad y Gelli
Sgwâr Goffa a Marchnad Menyn, Y Gelli, HR3 5AE, Cymru
Pob Dydd Iau, 8am -1.30pm
Marchnad Wledig Aberhonddu
Neuadd Marchnad Aberhonddu, Stryd y Farchnad, Aberhonddu, LD3 9AH, Cymru
Pob Dydd Gwener, 8am -1.30pm
Marchnad Wledig Llandeilo
Neuadd Ddinesig, Heol Crescent, Llandeilo SA19 6HY, Cymru
Pob Dydd Gwener, 8.30am -12.30pm
Marchnad Wledig Llanymddyfri
Gwesty’r Castell, Heol y Brenin, Llanymddyfri, SA20 0AP, Cymru
Pob Dydd Gwener, 9.30am -12pm