Gwir Dywysog Cymru
Yr adeg hynny roedd yr haf yn golygu’r daith i lawr o’r Brifysgol yn ôl at dŷ fy mam, fy hen wely, dim arian, job haf yn y Brit neu’r Bont, a dyddiau hir yng nghwmni Milo, Fitz a Gruff. Roedd y tri yn enwog trwy Bowys bryd hynny, yn bennaf am werthu hash gwael a chwalu eu Fiesta oren mewn i gloddiau’r fro bob tro byddai pethau’n distewi gormod. Gruff oedd yr un tawel o’r tri, yn aml doedd o’n ddim byd ond pâr o lygaid tywyll yn sedd gefn y car. Fo oedd yr un galluog hefyd. Yn un ar ddeg oed, pan oedd y garej dal yn agored yng Nghwmdu, cynllwyniodd i ddwyn bocs cyfan o dairy milk tra bo gyrrwr y lori yn araf fwynhau ei baned arferol wrth y cownter. Fo hefyd fynnodd gwerthu’r nwyddau tu ôl i’r sied feics yn hytrach na’u cadw i’w hunan.
Dwi’n cofio synnu ar y pryd cymaint oedd y plant eraill yn fodlon ei dalu am flas bach o dorcyfraith, dwywaith pris y siop yn aml. Doedd dim byd yn synnu Gruff. Roeddwn i’n treulio tipyn o amser efo’r tri brawd, fel arfer yn y beudy ar fferm eu rhieni yn dysgu sut i smocio. Tydi’r crush a ddatblygais ar Gruff yr adeg honno dal heb ddiflannu’n llwyr, ond ddigwyddodd na ddim byd mawr rhyngom, roedd o wastad yn dweud fy mod i fwy fel chwaer nac unrhyw beth arall. Ceisiais ei berswadio i fynd i’r brifysgol sawl tro, heb unrhyw lwyddiant. Yn y pen draw mi es i Fangor ar fy mhen fy hun, nid y lle mwyaf glamorous, ond o leiaf ei fod yn teimlo fel cam i’r cyfeiriad cywir. Cam tuag at Lundain neu Baris neu Madrid, unrhyw le lle gallwn i dorri fy ngwallt am naw o’r gloch y nos a mynd allan am fwyd wedyn.
Pan ddes i’n ôl
Pan ddes i’n ôl ar fy mlwyddyn gyntaf a chamu allan o orsaf y Fenni i’r haul, yr hen Fiesta oedd yn disgwyl amdana’i yn y maes parcio. Bum munud yn ddiweddarach roeddwn i’n mynd rhyw gan milltir yr awr ar y bypass yn gwrando ar Fleetwood Mac, gyda Fitz yn eistedd yn y sedd flaen a Gruff yn lledorwedd wrth fy ymyl i ac yn edrych fel rhyw Dduw roc yn ei sbectol haul. Iesgob, roedd e’n brydferth.
“Ti wedi cael cariad eto?” holodd.
“Dau, ond mae’r ddau yn rhy gyfoethog ac yn rhy dwp. Tithe?”
“Does gan Gruff ddim amser i werthfawrogi pleserau’r cnawd,” gwaeddodd Fitz, prin fy mod
wedi ei glywed dros y miwsig, “mae’n rhy brysur yn meddiannu’r rhyngrwyd!”
“Yn creu meddalwedd i buro’r meddwl!” bloeddiodd Milo.
“Efe sy’n rheoli camerâu’r cynulliad!”
“Rwy’n gwneud tipyn o waith rhaglennu i gwmni o’r Iseldiroedd,” dywedodd Gruff, “efallai byddai’n symud i Amsterdam yn yr Hydref.”
“Well i ti ofyn am fodrwy ganddo’n fuan,” parhaodd Fitz, “ti’n gwybod sut fath o ferched sydd ar y cyfandir!”
Yn hytrach nag ateb, gofynnais beth oedd y cynllun ar gyfer y prynhawn.
“Hwylio’r Orinoco ar y Titanic!” atebodd Milo.
“Canfod tarddiad y Fenai!”
“A smyglo halen mewn i Sbaen!”
Cymru yn yr haf
Mae’r haf, bob hyn a hyn, yn troi Cymru’n rywle arbennig. Y diwrnod hwnnw roedd y cloddiau’n llaes dan flodau ac yn chwipio ymyl y car wrth i ni wibio heibio. Ac er ’mod i wedi ysu sawl tro am gael symud oddi yno at ryw ddinas bell roeddwn yn deall fod adre’n rhywle arbennig, yn enwedig wrth ddychwelyd ar ôl tymor hir yn y gogledd.
Gwibiodd y Fiesta trwy Gofilon, Crughywel a Bwlch fel petai’r heddlu ar ein holau.
Rhoddodd Milo ei droed lawr a chanu’r corn wrth fynd heibio’r Red Lion cyn gwibio i fyny’r bryn, rownd y gornel, a throi i’r chwith at ymyl y dŵr.
“Croeso i’r Orinoco!”
“Neu Lyn Syfaddan, i bobol leol,” atebais innau.
“Pwy ydym ni i ddyfarnu?” dywedodd gan estyn ei smoc tuag ataf, “wele ffurf hardd y Titanic draw!”
“Byddwn ni’n boddi.”
“Cei foddi’n feddw o leiaf,” meddai Fitz wrth osod crât o gwrw ym mlaen y cwch rhwyfo bychan. Roedd yn isel yn y dŵr erbyn i ni gyd gamu arno, Gruff â’r rhwyfau yn y cefn, fi yn y blaen, a’r ddau frawd yn agor poteli yn y canol.
Torri llwybr trwy’r dŵr
Wrth i ni dorri llwybr trwy’r dŵr roedd yr haul yn codi at ei anterth, a breichiau Gruff yn dechrau sgleinio yn y gwres. Roedd o’n anelu am ganol y llyn ond daliwyd y cwch mewn cerrynt cyn i ni gyrraedd, ac yn araf bach tynnwyd ni at y lan yr ochr draw.
“Ysbïwraig, frodyr, heb os nac oni bai,” dywedodd Fitz gan bwyntio.
Edrychais draw trwy’r hesg a gweld dynes dal yn eistedd mewn cwch bychan yno, ysbienddrych yn ei dwylo a het haul ar ei phen.
“Gwell i ni gyflwyno’n hunain,” atebodd Milo, “dwi’n eithaf siŵr nad oes ganddi gwrw.”
“Gadewch lonydd iddi,” dywedais innau, ond roedd y cerrynt yn ein cludo tuag ati beth bynnag.
“KGB ynteu CIA?” holodd Milo wrth i ni nesáu, “rydym yn berffaith fodlon gwerthu Gruff i chi, am bris teg.”
Chwarddodd y ddynes. Atebodd ei bod hi wrthi’n gwneud arolwg o boblogaethau adar yn yr ardal, ac yn chwilio am fras y cyrs ac adar y bwn. “Ond rhaid cael tawelwch i wneud,” esboniodd, “felly rwy’n tybio ei bod hi’n amser egwyl yn barod.”
“Cwrw?” cynigiodd Gruff wrth estyn potel dros y dŵr.
Gafaelodd ynddi gan ddiolch, a dechreuodd Milo ein cyflwyno ni i gyd. Twm Siôn oedd o, Bartholomew oedd Fitz, Gruff oedd Gruff, a Coch Bach y Bala oeddwn i. Eisteddodd y ddynes gyda hanner gwên yn chwarae ar ei gwefus.
“Gwyliwch rhag yr Afanc yn y cwch bychan yna,” dywedodd o’r diwedd, “mi gymerodd goes nofiwr y llynedd yn ôl pob sôn.”
Y cerrynt od
“Hwnnw sy’n gyfrifol am y cerrynt od yma?” holais.
“Na, mae hynny’n rhywbeth gwahanol,” atebodd hithau, “yn ôl y sôn mae melltith ar y llyn, dyw’r dyfroedd ddim yn cymysgu.
Ac mae tref o bechaduriaid yn gorwedd dan y wyneb.”
“Dy fath di o le, Gruff. Allet ti fod yn dywysog arnynt,” dywedodd Milo.
“Ydych chi’n adnabod chwedl y tywysog a’r llyn?” holodd y ddynes.
“Na.”
“Maen nhw’n dweud os bydd gwir dywysog Cymru’n dod at lan Llyn Syfaddan ac yn gorchymyn i’r adar ganu, byddai pob un yn gwneud ar unwaith.”
“Mae hynny’n swnio fel her i mi!” ebychodd Fitz gan godi ar ei draed a throi tua chanol y llyn, cythrodd pawb am eu diodydd wrth i’r cwch ddechrau siglo.
“Weision annwyl, clywch orchymyn eich tywysog! Cenwch oll ar unwaith!”
Roedd tipyn o hwyaid o’n cwmpas, ond wnaeth yr un ohonynt glegar.
“Anodd dychmygu sut y galli di fod yn dywysog, o ystyried mai fi ydi’r brawd hynaf,” dywedodd Milo, a chyda hynny cododd yntau ar ei draed, gosod ei ddwylo o amgylch ei geg a gwaeddodd, “Gwrandewch, chwi adar mân ac adar mawrion, ar Filo, gwir Dywysog Gwalia. Byddwch gôr yng nghlustiau’ch meistr!”
Clywsom gri un bwncath unig ar y gwynt, ond dim mwy.
“Dy dro di, Gruff,” dywedais innau.
“Gweriniaethwr ydw i,” atebodd, “allwn i byth. Ti, ar y llaw arall, dw i wastad wedi amau...”
Codais ar fy nhraed, yn simsan braidd yn y cwch bychan, ac agor fy ngheg. Daeth y geiriau i’m tafod heb i mi feddwl rhywsut, “os wyf i yn perthyn i wir dywysogion Cymru, gofynnaf i’r adar mân ganu.”
Cyn i mi gael cyfle i eistedd daeth y twrw drosom fel ton. O fewn dim roedd yr awyr yn drwch o adar, yn un cwmwl yn chwyrlïo o gwmpas y llyn. Roedd cymaint o sŵn fel bod pob synnwyr arall yn pylu. Oedd hash Gruff mor gryf â hyn fel arfer? Hen stwff gwael oedd ganddo’r llynedd! Gwelais Milo’n eistedd yno’n gegrwth, edrychais ar Fitz yn ceisio edrych i bob cyfeiriad ar unwaith. Pan droais at Gruff doedd o ddim i’w weld wedi synnu o gwbl, na’r ddynes yn y cwch arall ychwaith. Eisteddai’r ddau gyda hanner gwên ar eu hwynebau yn edrych arna’i. Mi barodd y storm rhyw dri deg eiliad cyn i’r byd dawelu eto, cyn i’r holl adar mân ddiflannu’n ôl i’r wybren glir neu i’w cuddfannau yn y cyrs. Erbyn hynny roedd llygaid pawb arna’i.
“... beth ddigwyddodd?” holodd Milo’n syn.
“Mi oeddwn wastad wedi amau,” dywedodd Gruff yn dawel.
Edrychodd pawb arno.
“Wel, mi soniodd dy fam fod ’na waed brenhinol yn y teulu.”
Horatio Clare 2016
Sut i Ail-Greu'r Chwedl
Allwch chi wneud i’r adar ganu?
Ewch am dro trwy’r rhos at y guddfan adar, dilynwch yr arwyddion am daith ysgafn o ryw ddwy awr.
Yn yr haf bydd y caeau’n llawn o flodau gwylltion a thrwy gydol y flwyddyn bydd adar yn defnyddio’r llyn i orffwys ar eu taith.
Cofiwch gall y daith fod yn amhosibl yn ystod y gaeaf gan fod y llyn yn aml yn gorlifo i’r caeau cyfagos.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.aroundllangorselake.co.uk/wpcontent/uploads/2013/05/Discover-Llangorse-Bwlch-Brochure-Webmap.pdf
www.breconbeacons.org