Skip to main content

Dilyn Dau Faedd

Ces gynnig y swydd yn syth o’r brifysgol, a chyda gradd dosbarth cyntaf mewn newyddiaduraeth mi es i weithio yn hen swyddfeydd llychlyd y Gwalia Star. Bu’n dipyn o sioc i’r system a dweud y gwir, roedd y cwrs wedi awgrymu bod y byd newyddiaduraeth wrthi’n newid yn llwyr, ac wedi’i blethu’n dynn â thechnoleg fodern. Ond nid felly’r Gwalia Star, dim ond un cyfrifiadur oedd yn yr holl swyddfa – hen Acorn, BBC Micro wedi melynu, a chai neb ei ddefnyddio heblaw am y prif olygydd, Brenda. Papur oedd prif gyfrwng gweddill y swyddfa, papurau ymhob man ac ar hyd pob desg, a phawb yn smocio – Richmond Super Kings ac ambell getyn. Welais i erioed le tebyg. Roedd oddeutu 95% o’r staff yn ddynion – yr unig ferched yn yr adeilad oedd Llinos, yn y dderbynfa, a Brenda’r Prif Olygydd a oedd, os
rhywbeth, yn fwy sexist na neb arall. Dwi’n tybio i mi gael fy newis am y swydd achos bod rhyw bapur cystadleuol wedi dechrau ysgrifennu a gender disparity y Gwalia Star yn gyhoeddus – hynny a’r ffaith fod Llinos yn cael trafferth darparu
digon o de ar ei phen ei hun. ‘Hogan newydd’ oeddwn i ar y cychwyn. Hogan newydd, dau de os gweli di’n dda, a rhestr o’r holl gogs sydd wedi ennill cap i dîm Cymru. Mi fyddwn i’n estyn fy ffôn o fy mhoced, doedd hi’n ddim byd ffansi ond yn fwy pwerus na gweddill y swyddfa, a byddai’r holl staff yn dechrau gwingo. Roedd Wil yn rhoi ei ddwylo dros ei glustiau bob tro y gwelai’r teclyn. Dwi ddim yn siŵr pam. Ond efallai eu bod nhw’n gwbl gywir i ofni’r rhyngrwyd, dyna beth ddwynodd eu swyddi nhw’i gyd yn y pen draw. Dyw’r swyddfa ddim yno mwyach, dim ond fflatiau moethus erbyn hyn. Go brin eu bod wedi llwyddo i gael gwared â’r staen tybaco o’r to.

Dwi’n cofio’r diwrnod. Hogan newydd! Cyfarfod! Ac mi es i mewn i swyddfa Brenda at ddau neu dri o’r staff eraill.

“Mae papur bro Abergwaun wedi ysgrifennu stori am ddau faedd gwyllt sydd wedi dianc oddi ar gefn lori.”

Mae’r ddau newydd ddod oddi ar y fferi

“Mae’r ddau newydd ddod oddi ar y fferi o’r Iwerddon, mae bwrdd yn eu disgwyl mewn bwyty swanc ond mae’n debyg na fyddent yno mewn pryd. Mae o leiaf ugain o ddarllenwyr wedi ffonio’r bore ’ma i holi os ydyn nhw wedi cael eu dal, ac os ydyn nhw’n beryglus. Mae un twpsyn wedi cynnig prynu’r ddau a’u gyrru i fyw mewn rhyw noddfa ym Mhowys. Mae’r si ar led hyd y gwifrau, a phapurau Llundain yn awchu am y sgŵp. Mae’n ffynhonnell i ar y Great Western yn dweud bod y 10:42 o Paddington yn berwi o hacks a’u beiros! Allwn ni ddim gadael i’r Sais ddwyn ein stori ni, y Gwalia Star, papur cenedlaethol Cymru. Ein stori ni yw hon! Dwi angen lluniau, dwi angen stori, dwi angen cyfweliadau efo’r ddau fochyn - sut maen nhw’n teimlo, beth maen nhw’n gwisgo, unrhyw berthnasau Cymraeg, yr holl siabang. Iawn? Nick, cer amdani. Hogyn newydd, chdithau hefyd. Tomos, ti yw’r camera.
Dafydd, ti sy’n gyrru. Ac mae angen enwau.”
“Twrch Trwyth ac Ysgithrwyn?”
Roeddwn i wedi astudio ychydig o’r chwedlau yn y brifysgol, ac roeddwn yn ifanc ac eisiau dangos fy hun yn fy swydd newydd. Wnaeth na neb ddeall.
“Fel Culhwch ac Olwen,” dywedais, “y ddau faedd a ddaeth o Iwerddon i Gymru, efo Arthur a Culhwch ar eu holau yn ceisio dwyn y crib a’r gwellaif er mwyn torri locsyn Ysbaddaden a’i ladd cyn priodi Olwen achos fod melltith ar Culhwch?”

“Tydi hynny ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr i mi.”

Ond Trwyth ac Ysgithrwyn oedden nhw wedyn, hyd yn oed yn y newyddion Saesneg. Ac ‘Olwen’ oeddwn i, er i mi geisio esbonio nad Olwen oedd yn hela’r tyrchod yn y chwedl, ac nad oedd ganddi brin ddim cymeriad na rhinweddau tu hwnt i fod yn hardd a thawel a’r gallu i dyfu ambell i flodyn del. O leiaf fod gan y Widdon Orddu ychydig o sbarc.

Prysuro trwy’r Preseli

Yn ôl y sibrydion diweddaraf roedd y ddau faedd yn prysur deithio trwy’r Preseli. Cadwodd Dafydd ei droed yn drwm ar y sbardun gan ein cludo tua chan milltir yr awr hyd yr M4. ‘Gohebwyr y Byd yn Ymuno â’r Helfa’ oedd y darn cyntaf i mi yrru yn ôl at y swyddfa, o gartref y ffermwr a welodd y ddau faedd diwethaf. Roedd dau hofrennydd newyddion yn swnllyd uwchben a’r buarth yn llawn gohebwyr a phabelli’r cyfryngau. Doeddwn i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg, roedd y byd wedi dod i ddilyn y ddau faedd. Dechreuodd pethau droi fymryn yn od o’r eiliad honno. Daeth adroddiadau o Hendy-Gwyn, ac yna’r Mynydd Du. Llwyddodd Tomos gael llun o un baedd yn croesi’r bryniau wrth i ni wibio hyd eu trywydd, llwyddodd rhywun o’r Western Mail i gael rhaff am wddf un a chael ei lusgo trwy’r brwgaits am hanner milltir. Saethodd yr RSPCA sawl dart tuag atynt, ond wnaeth yr un lwyddo i dorri’r croen. ‘Bulletproof Boars’ yn ôl y Sun, roedd y papurau’n dechrau gwirioni. Prynodd un gohebydd draed moch gan y cigydd lleol a’u defnyddio i wneud llwybrau i geisio drysu’r gweddill, roedd poced pob un yn drwm gan gnau a thryffls. Byddai pwy bynnag a gâi’r cyfweliad cyntaf â’r ddau fochyn yn set for life, ac roedd pob un ohonom yn gwybod hynny’n iawn.
Y noson honno roeddem yn aros mewn gwesty bychan. Roedd gan Nick botel o wisgi ac roeddwn innau’n dechrau amau fy llwybr mewn bywyd.
“Hofrenyddion, gohebu 24 awr. Mae’r Dwyrain Canol ar dân, pam nad ydym ni i gyd yn gohebu ar hynny?”
“Pobl wedi clywed digon am y dwyrain canol, cariad. Di hen laru, does ’na neb yn adnabod unrhyw un sydd dal yno.”
“Ond dau fochyn?!”
“Mae pawb yn hoff o straeon anifeiliaid. Maen nhw un ai’n annwyl neu’n ddychrynllyd, mae’n hawdd, hynny a selebs meddw - pawb yn hapus. Mi ’da ni’n gwerthu dos o dopamine i’r meddwl cyntefig.”

Ymchwil mewn gwely oer

Nes ymlaen, wrth wneud fy ngwaith ymchwil mewn gwely oer, mi sylwais ar y patrwm. Preseli, Hendy-gwyn, Mynydd Du. Bu rhaid i mi ei ailddarllen sawl tro ond roedd yn gwbl amlwg! Deffrais Nick mewn cyffro, a bu rhaid iddo yntau ei ddarllen ambell dro hefyd.
“Wyt ti’n ceisio dweud bod y moch yma’n dilyn yr un llwybr â’r chwedl?” gofynnodd.
“Nid fi sy’n dweud! Culhwch ac Olwen sy’n dweud!” atebais innau.
“Cyd-ddigwyddiad.”
“Tri mewn rhes?”
“Yn bendant,” dywedodd, ond mi aeth yn syth i ddeffro Tomos a Dafydd. Erbyn i ni gyrraedd Dyffryn Aman, y lleoliad nesaf yn ôl y chwedl, roedd yr haul wrthi’n gwawrio.
Ar ôl hanner awr o ddisgwyl mewn llannerch gorslyd a’r pedwar ohonom yn stampio’n traed rhag yr oerfel ben bore, ymddangosodd y ddau o’r niwl. Roedd rhywbeth dychrynllyd amdanynt wrth i ni eu gwylio’n rhuthro ar draws y llannerch, dau lwmp enfawr o gyhyr fel dau gerflun derw, rhyw olwg hynafol iddynt. Llwyddodd Dafydd daflu rhaff a dal yr un lleiaf, trodd hwnnw tuag ato’n syth a rhythu, cyn parhau ar ei ffordd.

Llwyddodd Tomos i dynnu sawl llun

O sedd flaen y fan llwyddodd Tomos i dynnu sawl llun gwych o Dafydd yn cael ei lusgo dros gefn gwlad, tan i’r rhaff dorri a’i adael yn hongian mewn gwrych. Diflannodd y ddau faedd dros y grib ac mi gollwyd y trywydd am ychydig. Cymerais y cyfle i ddanfon stori arall yn ôl i’r swyddfa – Arthur yn Ymgodymu â’r Twrch, ecscliwsif gan Olwen, Brenda benderfynodd ar y geiriad.
Roedd gwerthiant y papur yn cynyddu pob dydd ac enwau’r pedwar ohonom yn dechrau dod yn adnabyddus, nid fy enw iawn gwaetha’r modd.
Erbyn i ni ganfod y moch eto roeddent yn carlamu tua Llyn y Fan Fawr, un o’r mannau mwyaf arswydus yng Nghymru yn fy marn i. Mae yna rywbeth am sut mae’r clogwyni’n plymio i’r dŵr tywyll, llonydd. Clywais gri hebog ar y gwynt, a dechreuodd y brain chwyrlïo pan ymddangosodd y ddau dwrch dros y grib, a phan sylwodd y twrch lleiaf fod Dafydd yn ei lwybr drachefn newidiodd ei lwybr gan anelu’n syth amdano. Rhwygodd ei goes o’r ben-glin at gesail y forddwyd. “Maen nhw’n ceisio’n lladd i!” gwichiodd Daf wrth i ni ei adael wrth ddrws yr ysbyty agosaf. Roedd Brenda wrth ei bodd pan glywodd hi, “Gwych! Ychydig o ddrama, ychydig o waed! Unrhyw un arall wedi brifo?”
Erbyn hyn roedd Cymru gyfan wedi’i hollti’n ddwy, rhwng cefnogwyr brwd o ryddidmoch a’r rhai oedd yn gweiddi am eu gweld yn rhost amheuthun ar y ford. Wnaeth yr un ohonom sôn am y cysylltiad â’r chwedl yr adeg honno - y wybodaeth oedd ein hunig fantais ar faes y gad, a byddai digon o amser i esbonio unwaith byddai popeth yn tawelu.
Er hynny roedd sawl papur arall wedi dechrau deall fod gen i ryw ddawn am ddenu’r moch, Boar Whisperer yn ôl rhai, a dechreuodd criw bychan o ohebwyr ein dilyn ni i bob man. Cefais alwad a chynnig hael iawn gan y Mail, ond wnes i ddim derbyn, rhag i fy holl lwc ddiflannu.

Brwydr fawr Talgarth

Aeth pethau’n flêr ochrau Talgarth, yr hen Ystrad Yw yn ôl yr hen chwedlau, lle’r oedd tipyn o griw wedi ein dilyn at goedwig fechan. Roedd pob un ohonom mewn cylch mawr o amgylch y ddau faedd, yn anelu camerâu a meicroffonau a gynnau’r RSPCA. Roedd cri’r
gohebwyr ar y gwynt. Beth yw’ch argraffiadau o Gymru hyd yma? Allwch rannu gair clên ar gyfer Visit Wales?
Daliwyd yr un bychan, Ysgithrwyn, yr adeg honno. Roedd Brenda wedi prynu’r ddau faedd gan y perchnogion Gwyddelig am swm sylweddol, ac wedi danfon dau o dîm rygbi Aberhonddu i’w dal. Dihangodd y Twrch Trwyth trwy’u dwylo, ond taflwyd Ysgithrwyn i gefn lori gan y bois rygbi a’i yrru ar wib i loches ddirgel lle câi ddod yn ôl at ei goed cyn y media tour. Ar y ffordd llwyddodd Nick i ddanfon y cyfweliad cyntaf yn ôl i’r swyddfa, pan gyfaddefodd Ysgithrwyn ei fod o a’r Twrch wedi dychwelyd i ddial ar ddisgynyddion Arthur a Culhwch, ond bod cefn gwlad Cymru’n le arbennig ar gyfer gwyliau gyda’r teulu, yn enwedig gwersyll y Celt’s Respite Park and Spa, sy’n rhesymol iawn. Wedyn dyma ni’n mynd ar ôl y Twrch.
Roedd y papurau wedi’u rhannu’n ddau erbyn hyn. Pennawd y Sun oedd ARMY HUNT KILLER BOAR, gyda llun o Dafydd druan ar ei wely ysbyty dros y dudalen flaen. Bu’r Express, y Mail a’r Times yn galw am ddifa Ygithrwyn a saethu’r Twrch Trwyth. Bu’r Independent yn trin a thrafod hawliau anifeiliaid, a’r Guardian, wedi dwys ystyriaeth, yn dweud mai eu dal yn dawel a’u difa’n drugarog fyddai orau. Dim ond y Gwalia Star, wrth geisio tanio calonnau’r cenedlaetholwyr, barhaodd i bortreadu’r anifeiliaid fel arwyr dewr yn dianc rhag erledigaeth. Ein moch ni oedden nhw erbyn hyn, yn ddau fascot i’r papur cenedlaethol. Roedd hi’n wyllt. Dechreuodd gweisg yr asgell dde gyflogi dynion â gynnau i sgwrio’r bryniau, dechreuodd darllenwyr y Mail atal eu plant rhag mynd i’r ysgol.

“Does dim synnwyr yn hyn”

“Does dim synnwyr yn hyn,” dywedais wrth Nick, “Ac ein bai ni yw’r holl beth.”
“Bai? Rydym ni wrthi’n creu casineb, ofn, a dicter,” atebodd, “dyna’r cam cyntaf tuag at grynhoi pŵer! Mi fydd dyrchafiadau lu yn dy ddisgwyl di, ond i ti fod yn amyneddgar. Dylet weithio ar y teledu’n amlach, mi wnaiff agor drysau i ti – mi allet fod yn AS hyd yn
oed!”
Daeth popeth i’w derfyn yng Ngwent, yn agos i’r lle mae’r M4 yn esgyn tua’r bont, ychydig i’r de o’r lôn, yn agosach i’r môr, ble mae’r tir yn rhannu’n nentydd a llifddolydd anhygoel. Yn ôl y chwedl bu Arthur a’r Twrch yn brwydro ger Llyn Lliwan, sydd ddim yn bodoli bellach, ond mae’n debyg ei fod wedi’i leoli rhywle o gwmpas Cil-y-Coed. Roeddem ni’n disgwyl yn y man cywir pan ddaeth yr alwad, ac roeddem ymysg y cyntaf i gyrraedd. Dacw’r baedd yn rhwygo’i ffordd trwy’r dŵr a’r pridd a’r mwd, glafoer yn diferu o’i geg a’i lygaid yn goch. Y tu ôl iddo carlamodd carfan enfawr o ddynion, cŵn, gynnau, gohebwyr, ceir, cychod, a’r cyhoedd, oll yn udo am waed a chyfiawnder. Ond wnaeth yr un fwled lwyddo i gyrraedd ei darged, wnaeth yr un ci lwyddo blasu’r baedd, roedd yn rhy gyflym.
Mae’r lluniau’n ei ddangos yn plymio’n syth i’r môr ac yn nofio o geg yr Hafren, ac yna’n diflannu.

Welodd neb mohono’n boddi

Welodd neb mohono’n boddi, nac yn disgyn o dan y don, dim ond diflannu’n araf dros y gorwel wrth i’r golau gilio. Roeddwn i’n falch na lwyddodd neb ei ddal o, ac na lwyddodd neb i gael clo taclus i’r holl storïau.
Tomos yrrodd y fan yn ôl i’r swyddfa tra bo Nick yn dramateiddio’r dydd ar gyfer y dudalen flaen. Roeddwn i’n brysur yn ysgrifennu fy mhwt bach fy hun am gefndir yr holl sioe, am y llwybrau a’r hen chwedlau. Gyrrais yr erthygl i’r Acorn oddi ar yr M4, gan obeithio na fyddwn yn peri i’r holl system rewi.
Ces fy ngwysio i’r swyddfa gan Brenda unwaith y gwnes gyrraedd yn ôl. “Wel, fy Olwen i,” dywedodd, nid ‘hogan newydd’ mohonof mwyach, “mi wnawn argraffu’r erthygl, mae hi’n rhy hwyr erbyn hyn i ni gael unrhyw beth arall. Ac mae’n amlwg dy fod di wedi gweithio’n galed arno fo. Efallai bydd rhaid ei gladdu yn y papur, mi wnaiff yn iawn tua thudalen 20. Mae’n rhy gymhleth i fod yn yr hanner cyntaf, mae’n well gan bobl ddarllen pethau syml a bachog. Chwedlau hynafol yn fyw eto trwy ein gwlad? Mae’n fwy o destun darlith brifysgol na newyddion. Marwolaethau a thrychinebau sy’n cyffroi’r gwaed y dyddiau yma.”
Ac roedd hynny’n wir. Marwolaethau a thrychinebau ac ambell gyfle i chwerthin ar anhap rhyw seleb druan, dyna sydd yn mynd â bryd pobl, ac yn y diwedd ni fydd y byd yn ddim ond marwolaethau a thrychinebau ac ofn. Mi fydd, am ein bod ni i gyd angen y ddrama a’r celwydd i’n cyffroi ni, ac am ein bod ni’n haws i’n trin pan fyddwn ni’n ofnus.

Horatio Clare 2016

Sut i ail-greu’r chwedl: Dilyn Dau Faedd

Ewch am daith hyd lannau Afon Twrch gan ddychmygu helfa Arthur a’r Twrch Trwyth. O’r maes parcio ar lôn Pen-y-Craig yn Ystradowen, trowch i’r dde gan ddilyn y lôn dros yr afon Twrch. Ar y chwith bydd llwybr troed amlwg, dilynwch hwn yr holl ffordd at simdde’r pwerdy arferai lusgo’r glo o bwll glo Dyffryn Henllys.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf