Skip to main content

Mwynhau cinio Dydd Sul a mynd am dro neu ar gefn beic yn Nhalgarth

Cyrhaeddwch ar ôl brecwast a pharcio ym mhrif faes parcio’r dref yn rhad ac am ddim. Os byddwch yn ymweld ar y Dydd Sul cyntaf o’r mis gallwch fwynhau’r Farchnad Wledig, a gweld y gorau o grefftau a chynnyrch lleol. Fel arall mwynhewch y daith gerdded foreol. Wedi ei lleoli wrth droed y Mynyddoedd Du, mae gan Dalgarth, a oedd unwaith yn Brifddinas yr hen Frycheiniog, lawer iawn i’w gynnig. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynhyrchu llyfryn gyda manylion taith gerdded hamddenol un filltir yn y dref, yn ogystal â theithiau cerdded mwy heriol i'r mynyddoedd o amgylch y dref .

Pan fydd y bola’n galw, gallwch fwynhau cinio yn un o'r tafarndai neu gaffis y dref neu ardd de. I gloi Dydd Sul perffaith, gallwch wedyn naill ai yrru, neu fynd ar gefn beic ar hyd llwybr beicio pwrpasol i Ganolfan Arddio Old Railway Line yn Aberllyfni, a enillodd y Ganolfan Planhigion Gardd orau yng Nghymru yn 2009 a 2010. Mae ganddi bopeth sydd ei angen arnoch i greu a chynnal gardd eich breuddwydion yn ogystal ag adran anrhegion wych. Pan fyddwch wedi gorffen hyn oll - beth am gael te prynhawn a chacen yn eu caffi rhagorol sy'n defnyddio cyflenwyr lleol, ac sydd â phwyslais ar gynhwysion Cymreig?

Amserlen Bosib

11.00-12.30 Cyrraedd y prif faes parcio yn Nhalgarth a cherdded i mewn i’r dref. Os oes angen, ewch i’r Ganolfan Wybodaeth ac Adnoddau er mwyn cael llyfr canllaw i'r teithiau cerdded o gwmpas Talgarth - neu fwynhau'r Farchnad Wledig.
12.30-2 Mwynhewch ginio yn un o dafarndai neu gaffis Talgarth.
2-2.30 Gyrru neu feicio i Ganolfan Arddio Old Railway Line yn Aberllyfni.
2.30-4 Treuliwch y prynhawn yn y ganolfan arddio - gan orffen gyda the a chacen yn y caffi.

Ble mae e?

Mae prif faes parcio’r dref, sy’n rhad ac am ddim, ger y gylchfan ar yr A479 - ffordd liniaru Talgarth.www.talgarthcentre.org.uk
Ffôn: 01874 712 226 Gallwch ddod o hyd iddi drwy adael y maes parcio i gyfeiriad canol y dref ac mae ar yr ochr chwith ar ôl croesi pont yr afon.
Canolfan Arddio Old Railway Line,
three Cocks, Brecon ld3 0sg www.oldrailwaylinenursery.co.ukFfôn (01497) 847055 Mae wedi ei lleoli ar yr ochr ogleddol o'r A438 yn Aberllyfni.

Cyfleusterau a Mynediad

Canolfan Gwybodaeth ac Adnoddau Talgarth

Oriau agor

Haf: Dydd Llun i Ddydd Sadwrn -
10-4. Dydd Sul
10 - 1.
Gaeaf: Dydd Llun i Ddydd Sadwrn -
10:30-3:30. Dydd Sul
10.30 - 1.
Mae’r ganolfan adnoddau ar y llawr gwaelod.

Canolfan Arddio Old Railway Line

Oriau agor
Dydd Llun - 9-6
Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn 8:30-6
Dydd Sul 9:30-5:30
Ceir mynediad hawdd i’r anabl i'r siop goffi a’r ganolfan arddio ac mae modd llogi cadeiriau olwyn os ydych yn gofyn. Mae yna hefyd doiledau hollol hygyrch.

Cludiant cyhoeddus

Ar y Tren:Yn Y Fenni mae’r orsaf drenau agosaf - Mae Talgarth rhyw 18 milltir o'r Fenni.

Ar y bws: Mae Talgarth cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Ewch i www.traveline-cymru.org.uki gael y wybodaeth deithio a’r amserlenni diweddaraf.

I gael amserlen bws Henffordd i Aberhonddu (trwy Dalgarth), chwiliwch am wasanaeth T14 ar y wefan Cyngor Sir Swydd Henffordd. Yn ystod misoedd yr haf mae gwasanaeth Bws y Bannau hefyd yn mynd trwy Dalgarth ar y Sul a Gŵyl y Banc dydd Llun o ddiwedd Mai tan ddechrau mis Hydref.

Ar feic: Mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd trwy Dalgarth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf