Hanes, cewri ac ysbrydion yng Nghwm Tawe
Mae diwrnod allan perffaith ar gyfer y rheini sy’n dyheu diwylliant yn dechrau gydag ymweliad i Waith Haearn Ynyscedwen yn Ystradgynlais. Yma roedd dros 1000 o ddynion yn gweithio yn 1853, gan ddefnyddio proses mwyndoddi newydd a ddarganfuwyd gan David Thomas, a symudodd yn ddiweddarach i UDA a daeth yn dad diwydiant haearn Americanaidd .
Mae'r ardal hon weithiau yn cael ei hadnabod fel Tir y Cawr Cwsg, oherwydd mae proffil nodedig mynydd Cribarth yn edrych fel cawr ar ei gefn yn ceisio cael cwsg bach. Llecyn naturiol dramatig arall yw Sgwd Henrhyd, sy’n 27 metr - yr uchaf yn Ne Cymru. Mae taith gerdded serth yn mynd â chi i waelod y cwympiadau a gallwch yna ddilyn llwybr ymhellach i lawr yr afon drwy fforest law Geltaidd hyfryd, lle mae'r Llech bach yn llifo'n gyflym ac yn ymuno â'r Tawe, gan fynd heibio i hen felin ddŵr gwlân sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel y 'Y Ffatri'. Mae llwybr sain ar y trywydd yn adrodd hanesion yr ardal ac yn rhoi digon o gyfle i orffwys a chnoi cul ar y cyfan.
Ewch am dro trwy'r parc gwledig cyfagos, gerddi pleser y castell gynt, ar ddiwedd y dydd a chael te a chacen yn y Changing Seasons Café yn y parc.
Amserlen Bosib
11.00Ymweld â Sgwd Henrhyd a cherdded ar hyd llwybr Sgydau Nant Llech.
13.00-14.30 Cinio tafarn yn un o'r tafarndai lleol.
15.30-16.00 Ymweld â Pharc Gwledig Craig-y-nos a theatr Madame Patti.
16.00 Ei throi hi am adref.