Skip to main content

Y Fenni: treftadaeth , golygfeydd a gwinllan

Dechreuwch eich diwrnod gydag ymweliad ag Amgueddfa’r Fenni sy’n sefyll ar dir adfeilion Castell Normanaidd. Yn 1818, cafodd adeilad yr amgueddfa bresennol ei adeiladu ar ben y domen fel llety hela ar gyfer Ardalydd y Fenni. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, yn union fel y mae'r golygfeydd trawiadol o'r Castell dros Ddyffryn Wysg a Mynydd Blorens.

Mwynhewch bicnic yn y gerddi neu gerdded i ganol y dref i ddod o hyd i ginio yn un o'r caffis a’r bwytai niferus. Fe wnewch chi daro heibio gerddi tawel Linda Vista ar eich ffordd, sydd ar agor i'r cyhoedd ers 1963. Mae’r Gerddi’n brolio nifer o goed prin ac ysblennydd, fel coeden Bysedd y Cŵn. Maent yn cynnwys y gerddi ffurfiol Tŷ Linda Vista o’r 19eg ganrif gyda'u terasau o wrychoedd pren bocs. Mae yna hefyd wely chwarae hyfryd i blant gyda thwnnel helyg byw. Llecyn picnic perffaith arall.

Ar ôl cinio, gyrrwch bum munud tu allan i'r dref i faes parcio Mynydd Pen-y-fâl. Yn 596 metr, mae Pen-y-fâl yn fabi o'i gymharu â rhai o'r copaon ym Mannau Brycheiniog ond mae ei siâp conigol nodweddiadol yn ei wneud yn amlwg, a llawer iawn o bobl leol yn dwlu arno. Mae'r daith gerdded i fyny i'r copa yn gymharol hawdd, o fewn gallu'r bobl â ffitrwydd cymedrol - ond mae’r copa yn agored iawn - felly peidiwch â chael eich twyllo gan ei ymddangosiad ysgafn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo esgidiau a dillad addas. Er nad yw’n anodd dod o hyd i'ch ffordd, gallwch ddewis nifer o lwybrau gwahanol felly mae map yn syniad da.

Amserlen Bosib

11.00 Cyrraedd maes parcio Stryd y Castell a threulio'r bore yn y Castell a’r amgueddfa .
13.00-14.00 Mwynhewch bicnic ar dir y Castell neu gerddi Linda Vista neu gerdded drwy'r gerddi i gael cinio yn y Fenni.
14.00 -16.00 Gyrrwch i faes parcio Pen-y-fâl i fwynhau taith gerdded i fyny at y copa.
16.00-16.30 Y saib olaf yng ngwinllannoedd Pen-y-fâl, er mwyn cael te a thaith hunan dywys.

Ble mae e?

Amgueddfa a Chastell y Fenni
Amgueddfa a Chastell y Fenni, Stryd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 5EE
www.abergavennymuseum.co.uk Ffôn: (01873) 854 282
Wedi eu lleoli ar ochr ddeheuol y dref, mae modd mynd atyn nhw o'r gylchfan lle mae'r ffordd A4042 Pont-y-pŵl yn cyfarfod â’r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd.
O'r gylchfan dilynwch yr arwyddion am ganol y dref ar hyd Ffordd Trefynwy. Yn syth ar ôl y ganolfan groeso a'r orsaf fysiau ar yr ochr dde, trowch i'r chwith i mewn i Stryd Gorllewin y Castell ac yna i'r dde i mewn i faes parcio stryd y Castell .

Gerddi Linda Vista
Mae modd ffeindio’r Gerddi trwy droi i'r chwith allan o faes parcio Stryd y Castell ac yna parhau i Stryd Tudor lle gallwch weld y gerddi ar yr ochr chwith.

Pen-y-fâl
I ddod o hyd i'r maes parcio ewch heibio Ysbyty Neville Hall ar yr A40, cymerwch y tro cyntaf ar y dde, tuag at Winllan Sugarloaf, ac unwaith rydych chi ar y lôn cymerwch ddau dro i’r chwith, ewch heibio i'r winllan a phan mae’r ffordd yn fforchio, cymerwch y fforch gyda'r saeth fach ddu i'r maes parcio.

Gwinllannoedd Sugarloaf
Dummar Farm, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7LA www.sugarloafvineyard.co.uk Ffôn: (01873) 853066
Gadewch y Fenni ar yr A40 i Aberhonddu. Ewch heibio Ysbyty Neville Hall, a chymryd y tro cyntaf ar y dde, tuag at Winllan Sugarloaf, unwaith rydych chi ar y lôn cymerwch ddau dro chwith, yna'n syth i'r dde i mewn i'r winllan.

Cyfleusterau a Mynediad

Castell ac Amgueddfa’r Fenni
Oriau agor
Mawrth-Hydref
Llun - Sad: 11-1 a 2-5
Sul: 2 - 5

Tachwedd-Chwefror
Llun - Sad: 11-1 cau 2-4

Fel gyda llawer o adeiladau hanesyddol mae mynediad yn anodd mewn rhai ardaloedd ac argymhellir bod yna o leiaf un person abl i helpu.

Mae tiroedd y castell yn anwastad ond mae ramp yn arwain at yr amgueddfa.

Yn yr amgueddfa, mae gwahanol raddau o fynediad i wahanol rannau tu mewn ond gall staff yr amgueddfa gynorthwyo os dymunwch.

Gerddi Linda Vista.

Mae'r gerddi fel arfer ar agor 7yb -6yh yn y gaeaf a 7yb-8yh yn yr haf. Mae mynediad am ddim. Mae yna nifer o lwybrau hygyrch yn y gerddi.

Gwinllannoedd Sugarloaf
Oriau agor
Pasg - 31 Hydref
Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 10.30-5 Dydd Sul 12-5
Ar agor Dyddiau Llun Gŵyl Banc

Tachwedd- 24 Rhagfyr
Mer - Sul 12:00 - cyfnos
Er mwyn trefnu y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch os gwelwch yn dda,
a byddant yn hapus i glywed gennych.
Mae'r siop goffi a’r siop ar y llawr gwaelod gyda thoiled hygyrch. Gall ceir ddod at fynedfa'r siop os oes angen mynediad i gadeiriau olwyn. Mae'r gwinllannoedd eu hunain ar lethr gyda glaswellt o dan draed.

Cludiant cyhoeddus

Ar y Trên, yr orsaf agosaf yw'r Fenni – mae’r Ganolfan Groeso ychydig yn llai na 1km i ffwrdd ar droed.
Ar y bws: Stagecoach (www.stagecoachbus.com). Gwasanaeth bws y Bannau ar ddydd Sul a gwyliau banc drwy gydol yr haf.
Ffôn: 01873 853254, ewch i www.travelinecymru.info

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf