Skip to main content

Y Fenni: siopa , treftadaeth a mynd am dro yn Nolydd y Castell

Cyfunwch bleserau gwlad a thref mewn un diwrnod wrth ymweld â'r Fenni hardd, y fynedfa i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog .

Gyda Neuadd Farchnad 19eg ganrif drawiadol a rhai siopau rhagorol yn y dref, bydd y bore yn hedfan heibio’n hapus. Y prif ddiwrnod marchnad yw dydd Mawrth - ond mae yna farchnadoedd amgen ar ddyddiau eraill o'r wythnos - holwch y Ganolfan Groeso (01873 853254).
I’r rhai sy'n hoffi profi ychydig o ddiwylliant gyda'u cinio, gallai ymweliad â'r Ysgubor Ddegwm 12fed ganrif a gafodd ei hadfer yn ddiweddar, y Neuadd Fwyd ac Eglwys y Santes Fair gerllaw, daro deuddeg. Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn ei bwyd lleol, Cymreig blasus a chyfoes, a gallwch wlychu pig gyda choffi ar ôl hynny a chrwydro o amgylch yr arddangosfa sy'n gartref i dapestri a gafodd ei bwytho â llaw gan drigolion y Fenni i goffáu’r mileniwm yn 2000.
Ar ôl cinio, mae taith gerdded hamddenol ar lan yr afon yn nolydd y Castell wastad yn ffordd bleserus i dreulio’r prynhawn. Mae'r afon Wysg wedi ei dynodi'n SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) felly mae bywyd gwyllt yno’n ddi-ffael. Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld un o’r glas y dorlan sy’n byw yno. Ond o gael y tywydd o’ch plaid chi, gallwch weld golygfeydd gwych o fynyddoedd Pen y Fâl a’r Blorens.
Nesaf, ewch ar daith o amgylch Eglwys y Santes Fair a gweld y ‘ffigur Jesse’ unigryw sydd wedi ei gerfio o un darn o dderw yn y 15fed ganrif. Hwn ydy’r unig un yn y DU, ac mae'n debyg, y byd. Hefyd, mae gan y Santes Fair yr ail gasgliad sengl mwyaf o henebion canoloesol mewn eglwys blwyf yn y DU, sy'n ymestyn o 13eg ganrif i tua 1510 mewn pren, alabastr a charreg rywiog.

Amserlen Bosib

11am Cyrraedd y Ganolfan Groeso, parcio a cherdded drwy dir Ysgubor Ddegwm ym mhen uchaf y maes parcio i mewn i'r dref.
1-2pm Mwynhewch ginio yn yr Ysgubor Ddegwm neu ginio yn y Fenni.
2-2.45 Ewch o gwmpas yr Ysgubor Ddegwm, sy’n llawn hanes, ac Eglwys y Santes Fair.
3.45 Cyfle am de bach yn y Fenni neu ei throi hi am adref.

Abergavenny street scene near the Market Hall

Ble mae e?

Canolfan Groeso, Swan Meadow, Ffordd Trefynwy, Y FENNI, Gwent, NP7 5HL

Ffôn: (01873) 853 254
Mae wedi ei lleoli ar ochr ddeheuol y dref a cheir mynediad iddi oddi wrth y gylchfan lle mae'r ffordd A4042 Pont-y-pŵl yn cyfarfod yr A465 ffordd Blaenau'r Cymoedd. O'r gylchfan dilynwch yr arwyddion am ganol y dref ar hyd Ffordd Trefynwy. Mae'r Ganolfan Groeso a maes parcio'r orsaf fysiau gyda'i gilydd ac ar yr ochr dde cyn canol y dref.
Caiff yr Ysgubor Ddegwm, Neuadd Fwyd ac Eglwys y Santes Fair eu gweld ger yr allanfa ym mhen uchaf y maes parcio.

Dolydd y Castell

Er mwyn cyrraedd cychwyn y daith gerdded, croeswch yr A40 o flaen y Ganolfan Groeso, yna cymerwch ychydig o gamau i'r dde ac yna byddwch yn Stryd y Fenni. Ymunwch â'r llwybr brics ac yna dilyn hwnnw tuag at y giât a fydd yn mynd â chi i mewn i Ddolydd y Castell.
Gellir cael manylion pellach am y daith gerdded gan y Ganolfan Groeso.

Cyfleusterau a Mynediad

Mae Neuadd Fwyd Ysgubor y Degwm ar agor
9.00-5 dydd Llun i ddydd Sadwrn

a 11-3 ar ddydd Sul.

Mae'r arddangosfa yn agored 10-4 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac ar gau ar ddydd Sul. Mae’r Neuadd Fwyd ar y llawr gwaelod ac yn hollol hygyrch. Mae arddangosfa Ysgubor Ddegwm ar y llawr cyntaf a gellir cael mynediad iddo drwy risiau a lifft. Mae mynediad i'r arddangosfa a'r eglwys yn rhad ac am ddim ond mae croeso i chi roi cyfraniadau gwirfoddol.
Mae Eglwys y Santes Fair ar agor
11-3 dydd Llun i ddydd Sadwrn
a 2-4 ar ddydd Sul.
Mae Dolydd y Castell yn cynnig teithiau cerdded ar dir eithaf gwastad, ac mae llawer ohonynt yn addas i gadair wthio neu gadair olwyn. Mae croeso i gŵn, ond bydd angen i chi ei roi ar dennyn, am fod gwartheg a merlod yn aml yn pori yno yn ystod misoedd yr haf. Mae'r daith ar orlifdir afon Wysg ac felly gallant fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn cyfnodau o dywydd gwael. Felly, byddai esgidiau addas yn fuddiol.

Cludiant cyhoeddus

Yr orsaf drenau agosaf yw’r Fenni - mae’r Ganolfan Groeso ychydig yn llai na 1km ar droed oddi yno.
Ar y bws: Stagecoach (www.stagecoachbus.com). Gwasanaeth bws y Bannau ar y Sul a Gwyliau banc drwy gydol yr haf.
Ffôn: 01873 853254Ewch www.travelinecymru.info am ragor o wybodaeth.
Ar feic: mae rhediad 46 o’r NCN gerllaw.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf