8 peth i'w mwynhau wedi iddi nosi
Daw’r rhan fwyaf o bobl i Fannau Brycheiniog i wneud y gorau o’n cefn gwlad anhygoel. Ond, pan ddaw’r dydd i ben, nid oes rhaid i’r hwyl i orffen.
1. Gwrandwch am y parti nos
Gall y cyfnos fod yn amser prysur ym myd natur. Wrth i’r haul fachlud, bydd drudwy yn galw a chwyldroi yn yr awyr cyn clwydo, tra bydd tylluanod yn paratoi i hedfan a’r troellwyr yn troelli’n ysgafn wrth hel pryfed. Cerddwch ar hyd llwybr ar lan y dŵr ar noson o haf, ac efallai y clywch ddyfrgwn yn chwibanu ar ei gilydd.
2. Craswch falws melys dros dân gwersyll
Ail-gyneuwch atgofion hapusaf eich plentyndod drwy adeiladu coelcerth (mewn lle diogel) a chlosio at eich anwyliaid. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar gwersylla.
3. Chwaraewch ‘Llofruddiaeth yn y Tywyllwch’ mewn bwthyn hanesyddol
llawn cymeriad a fydd yn cynnig yr holl awyrgylch fydd ei angen arnoch ar gyfer noson o gemau parlwr arswydus. Tynnwch y llenni, cyneuwch ychydig o ganhwyllau, a bydd y llwyfan yn barod. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar Ble i Aros.
4. Mwynhewch swper mewn bwyty ardderchog
Mae yna siawns go dda eich bod wedi clywed rhywfaint am ein henw da fel cyrchfan bwyd chwaethus. Byddwch hefyd, mae’n siŵr, erbyn gyda’r nos, wedi codi chwant am fwyd. Felly, dyma’r amser i roi’r enw da hynny ar brawf. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar llefydd i bwyta ac yfed.
5. Gwyliwch sioe ardderchog yn Y Fenni
Mae yna rywbeth ymlaen bron bob noson o’r wythnos yn Theatr y Fwrdeistref. Mae’n croesawu theatr, dawns, comedi a bandiau teyrnged, tra Theatr y Melville, stiwdio’r Fwrdeistref, yw’r lle i ddal cynhyrchiad ar raddfa fach neu ffilm gelfyddyd arbenigol.
6. Profwch gerddoriaeth jazz o’r radd flaenaf yn Aberhonddu
Os yr ydych yn ddigon ffodus i fod yn Aberhonddu yn gynnar ym Mis Awst, gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau’r tonau hamddenol yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu ( www.breconjazz.com). Mae rhai o’r sêr diweddar fu yno yn cynnwys Jools Holland ac Acker Bilk. Ond, bydd rhaid i chi frysio - mae llawer o ddigwyddiadau yn gwerthu allan o flaen llaw. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau.
7. Mwynhewch beint gyda’r bobl leol mewn tafarn glyd
Pa ffordd well i orffen diwrnod llawn antur o gerdded mynyddoedd, canŵio neu feicio mynydd nag wrth ymlacio mewn tafarn draddodiadol, gyda pheint o gwrw go iawn yn eich llaw? Bydd pob croeso i chi. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar tafarndau.
8. Ewch i syllu ar y sêr yn ein Gwarchodfa Awyr Dywyll
Rydym wedi ein bendithio â rhai o wybrennau mwyaf tywyll y DU. Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau syllu ar y sêr, lle cewch wylio cawodydd o sêr gwib drwy delesgop. Neu, yn hytrach, ewch allan, edrychwch i fyny, a byddwch yn barod i gael eich dallu. I ddarganfod mwy, ewch i’r tudalen yma.