Dewch i ddarganfod gwir flas ein hardal yn ein gwyliau blynyddol rhagorol.
MEHEFIN
Gŵyl Fwyd Haf y Gelli.
Mae’n werth i bob gourmet ymweld â’r ŵyl undydd hon. Cyfyngir y diwrnod i nifer cymharol fechan o gynhyrchwyr bwyd, seidr a wisgi lleoli er mwyn sicrhau’r ansawdd gorau a cheir adloniant gan fandiau pres, corau meibion a cherddorion gwerin lleol. Cynhelir yr ŵyl, sydd â naws arbennig iddi ar ddiwrnod braf, yn yr awyr agored ar Faes Parcio Coffa y Gelli ynghanol y dref.
MEDI
Gŵyl Fwyd y Fenni
Mae gan benwythnos Gŵyl Fwyd y Fenni enw da yn barod am fwyd, diod a chwilota am borthiant, ac, fel gwin da, mae’n gwella bob blwyddyn. Gellwch ddisgwyl stondinau hardd, arddangosfeydd, sgyrsiau a gweithgareddau difyr fel teithiau cerdded gyda thywysydd i chwilio am borthiant. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys dosbarthiadau meistr gan gogyddion ac awduron bwyd enwog sy’n cynnwys rhai o sêr cogyddol Cymru, megis Bryn Williams o Odette's yn Primrose Hill, Llundain a Matt Tebbutt o’r Foxhunter, Nant-y-deri. Mae hyd yn oed yr addurniadau - sy’n wahanol bob blwyddyn - yn wledd i’r llygaid. Yn ôl yr Observer Food Monthly, "Abergavenny is to food as Cannes is to film – an annual festival for spotting rising stars in Britain's artisan food firmament.”/ “Mae’r Fenni i fwyd yr hyn yw Cannes i ffilm - gŵyl flynyddol er mwyn dod i adnabod y sêr sy’n codi yn ffurfafen gogyddol Prydain”
HYDREF
Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog
Mae'r ŵyl, yn ei 20fed flwyddyn, yn addo detholiad gwych o fwyd a diod leol - rhai o'r gorau i'w gweld ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
AM DDIM i fynychu; Gall cefnogwyr yr ŵyl edrych ymlaen at samplu amrywiaeth o gynnyrch o fara i fwrw a chaws i gacennau Cymreig gyda'r rhan fwyaf o eitemau'n teithio milltiroedd llai na'r ymwelwyr eu hunain. Bydd uchafbwyntiau Bwyda yn cynnwys arddangosiadau coginio gan gogyddion sydd wedi ennill gwobrau.
TACHWEDD
Gŵyl Fwyd Aeaf y Gelli
Ar Sadwrn yn Nhachwedd, mae’r ŵyl hon yn dathlu popeth sy’n dda am goginio yn nhymor y gaeaf, gyda stondinau o gynnyrch lleol ac adloniant cerddorol yn rhad ac am ddim. Fel Gŵyl Fwyd Haf y Gelli, mae’r ŵyl hon yn yr awyr agored ar Faes Parcio Coffa’r Gelli ynghanol y dre. Yn y gorffennol, galwodd Siôn Corn heibio a chyneuwyd goleuadau Nadolig y dre gyda’r hwyr.
DRWY’R FLWYDDYN
Marchnadoedd y ffermwyr, siopau fferm, poptai a delis
Tu allan i’r tymor gwyliau, gellwch brynu cynnyrch lleol ffres yn ein marchnadoedd a’n siopau niferus. Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen
Siopa am fwyd a diod/Shopping for food and drink.