Skip to main content

Ewch am dro ar drên stêm Mynydd Aberhonddu

Am ddiwrnod allan gwych beth am fynd ar daith ar hen drên stêm locomotif ar draws y rheilffordd treftadaeth gul sy'n rhedeg wrth ymyl Pontsticill a Chronfeydd Pentwyn.

Mae'r hen gyffordd rheilffordd yn Aberhonddu a Merthyr yn eich tywys drwy olygfeydd hardd tuag at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar hyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan i Ddôl-y-gaer. Ym Mhontsticill gallwch ymweld â'r caffi, edmygu'r olygfa ar draws y dŵr i gopaon Bannau Brycheiniog a mynd am dro ar hyd y gronfa ddŵr. Mae yna ardal chwarae yma ar gyfer plant hefyd.

Ar ôl dychwelyd i Orsaf Pant, ewch i weld y gweithdy lle mae hen drenau stêm yn cael eu hatgyweirio, neu dilynwch y llwybr troed newydd i gyrraedd llecyn picnic sydd â golygfeydd panoramig anhygoel o'r dyffryn.

Sample Itinerary
10:00 Cyrraedd ar gyfer bore neu ddiwrnod allan yng Ngorsaf Pant.
11:00 Y trên yn gadael. (Mae nifer o amserau gadael bob dydd - mae amserlenni ar gael yn www.breconmountainrailway.co.uk/timetable)
11.35-11.55 Hoe fach yng Ngorsaf Pontsticill i gael lluniaeth.
11:55 Y trên yn dychwelyd i Orsaf Pant am ginio, yna gallwch adael neu barhau i aros ym Mhontsticill ar gyfer cinio a thaith gerdded. Dychwelwch ar drên diweddarach.
14:35 Trên yn dychwelyd i Orsaf Pant - ewch i'r gweithdy.
03:30 Mynd am adref.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf