Sut i gyrraedd
Efallai bod ein Park yn teimlo'n anghysbell, ond mae’r cysylltiadau’n dda iawn. Mae'n syml i gyrraedd yma ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car.
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
I chwilio am drafnidiaeth gyhoeddus ac amserlenni, cysylltwch â Traveline Cymru (ffôn 0871 200 22 33, www.traveline-cymru.info).
Trên
Mae trenau uniongyrchol bob awr i'r Fenni ar linell Caerdydd-Manceinion, a chysylltiadau da o ddinasoedd eraill.
Mae trenau i Ferthyr Tudful o Gaerdydd a Phontypridd bob hanner awr, sy’n cymryd awr.
Mae Llanymddyfri ar reilffordd Calon Cymru a threnau o Lanelli, Abertawe ac Amwythig bedair gwaith y dydd.
Am amserlenni a phrisiau teithio, cysylltwch â National Rail Enquiries (ffôn 08457 484950, www.nationalrail.co.uk)). Archebwch ymlaen llaw am y tocynnau rhataf.
Coets
Gallwch gyrraedd y Fenni, Caerdydd, Castell-nedd neu Abertawe gyda National Express (www.nationalexpress.com) neu Gaerdydd neu Abertawe ar y Megabus (www.megabus.com). Mae’r ddau gwmni hyn yn cario beiciau os ydynt wedi’u pacio mewn bocs, bag neu gȇs.
Bws
Mae'n hawdd teithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o Dde Cymru a Henffordd ar y bws.
Mae gwasanaethau rheolaidd i’n Parc Cenedlaethol bob dydd. Mae'r T4 yn mynd o Gaerdydd i’r Drenewydd drwy Aberhonddu. Mae'r T6 yn mynd o Abertawe i Aberhonddu.
Mae'r gwasanaeth X55 Clipiwr Cymruo Abertawe a Chastell-nedd bellach yn rhedeg i Bontneddfechan, gan wasanaethu tafarn yr Angel a Chraig Dinas, a’i gwneud yn hawdd cyrraedd Gwlad y Sgydau.
Pas Crwydro Cymru
Mae Pas Crwydro Cymru, sydd ar gael ymlaen llaw o orsafoedd rheilffordd ac asiantiaid, yn caniatáu i chi deithio’n ddiderfyn ar holl wasanaethau rheilffordd a'r mwyafrif o wasanaethau bws lleol Cymru. Gellir ei ddefnyddio ar bob gwasanaeth bws lleol yn ac o gwmpas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan gynnwys Bysiau’r Bannau, ac eithrio gwasanaethau 1, 2, 442, T2 a X75.
Mae'r tocyn yn ddilys am gyfnod o wyth diwrnod yn olynol. Gellir defnyddio trenau ar bedwar o'r dyddiau hynny a bysiau ar bob un o’r wyth diwrnod.
Gyda rhai eithriadau, ni ellir defnyddio gwasanaethau’r rheilffordd cyn 9:15yb o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhaid cwblhau teithiau erbyn hanner nos.
Mae'r tocyn yn cynnwys gwasanaethau rheilffyrdd ar y llinellau canlynol:
- Caer i Crewe, Gogledd Cymru ac Amwythig
- Amwythig i Aberystwyth, Caer, Crewe, Casnewydd ac Abertawe
- Casnewydd i Lydney ac Amwythig
Mae gan ddeiliaid tocynnau hawl i gyfraddau gostyngol ar y canlynol:
- Rheilffyrdd twristaidd Cymru (gyda rhai eithriadau)
- Bysiau City Sightseeing (gyda rhai eithriadau)
- Henebion Hanesyddol Cadw yng Nghymru
- Eiddo a gerddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (gyda rhai eithriadau)
- Llety Cymdeithas Hosteli Ieuenctid
Yn y car
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o fewn cyrraedd hawdd i'r M4, M50 a'r A40.
Am gyfarwyddiadau ac amcangyfrif o'ch amser teithio, defnyddiwch gynlluniwr siwrnai’r AA (www.theaa.com/route-planner).
Teithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o'r tu allan i'r DU?
Y maes awyr agosaf i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd www.cardiff-airport.com), sydd awr yn unig i ffwrdd.
Os byddwch yn hedfan i mewn i Gatwick Llundain, Heathrow Llundain neu unrhyw un o feysydd awyr rhanbarthol y DU, mae'n hawdd parhau â’ch taith i’n Parc Cenedlaethol ar y trên neu ar y ffordd. Am opsiynau, cysylltwch â Traveline Cymru (ffôn +44 871 200 22 33, www.traveline-cymru.info).
Mae gwasanaethau fferi rheolaidd o Iwerddon i Gaergybi, Abergwaun ac Abertawe.