Eglwys Gadeiriol a Chanolfan Treftadaeth Aberhonddu
Mae Cadeirlan Aberhonddu yn dyddio o oes y Normaniaid ac mae ysgubor degwm, wedi’i hadfer, sy’n deillio o’r 16eg ganrif ar y safle. Mae’r Ganolfan Dreftadaeth, sydd yn yr ysgubor degwm, yn cynnwys adluniadau, arddangosfeydd clyweledol a siop.
Gwybodaeth bellach
Mae’r adeiladau i gyd yn hygyrch ac mae ramp i mewn i'r eglwys gadeiriol ei hun. Mae'r eglwys gadeiriol ar agor bob dydd. Ffoniwch am amserau agor a phrisiau mynediad i’r Ganolfan Dreftadaeth.
Sut i gyrraedd: Mae'r eglwys gadeiriol ychydig oddi ar yr B4520, Priory Hill, 750 metr o ganol tref Aberhonddu.
Tref neu bentref agosaf: Aberhonddu.
Cyfeirnod Grid OSMap Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160 - SO 044 290.
Cysylltwch â: Ffoniwch 01874 623857 neu ewch i wefan Brecon Cathedral. I gysylltu â’r Pilgrim's Tea Room, ffoniwch 01874 625222.
Cyfleusterau: Mae bwyty hygyrch (Pilgrim’s Tea Room) ar y safle, sy'n defnyddio cynhwysion lleol. Gellir cyrraedd Aberhonddu ar drafnidiaeth gyhoeddus o ganolbarth a de Cymru.
Parcio: Mae maes parcio wrth ymyl yr eglwys gadeiriol ac mae mynediad i'r eglwys drwy giât mochyn gul. Gellir agor y giât mochyn yn lletach drwy agor pedair clicied wrth lefel y ddaear.
Toiledau: Mae'r toiledau, gan gynnwys toiled gyda mynediad i'r anabl wrth fwyty Pilgrim's.