Parc gwledig Craig-y-nos
Sylwch mai dim ond yn rhannol y mae Parc Gwledig Craig-y-nos wedi’i agor oherwydd y stormydd diweddar. Cofiwch gadw at y rhybuddion cau a pheidiwch â chroesi unrhyw rwystrau. Mae'r mesurau hyn yn eu lle er eich diogelwch. Mae cyfleusterau fel y maes parcio, Gwefrwyr Cerbydau Trydan a thoiledau, caffi Dwy Afon, Emporium, Cwtch Tylwyth Teg a Ffeiber ar agor fel arfer.
Mae’r parc gwledig 40-erw hwn yn rhan o diroedd hanesyddol castell Fictoraidd Craig-y-nos ac fe'i rheolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn lle perffaith am ddiwrnod llawn hwyl a diogel i'r teulu cyfan. Ewch am dro hamddenol ar hyd y llwybrau hygyrch, heibio coed ffawydd anferth ac ar hyd glannau afonydd byrlymus.
Gwybodaeth bellach:
Mae arwyneb ar y mwyafrif o’r llwybrau i'r coetir, dolydd, llynnoedd a safleoedd picnic. Gall llwybrau’r dolydd fod yn feddal dan draed. Mae map cyffyrddadwy a bwrdd gwybodaeth ar ddechrau'r prif lwybrau.
Sut i gyrraedd: Mae'r parc gwledig ychydig oddi ar yr A4067 rhwng Ystradgynlais a Phontsenni.
Tref neu bentref agosaf: Pen-y-cae.
Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160 - SN 840 155.
Cysylltwch â: Parc Gwledig Craig-y-nos ar 01639 730395.
Cyfleusterau: Mae gwasanaeth bws o Aberhonddu ac Abertawe.
Parcio: Mae maes parcio mawr, gydag arwyneb o garreg gywasgedig, gyda mannau parcio i'r anabl, sydd ag arwyneb tarmac. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos gyda pharcio am ddim i ddeiliaid bathodyn parcio i’r anabl yn unig.
Toiledau: Mae’r prif doiledau a’r toiled i’r anabl gerllaw’r ganolfan ymwelwyr.