Diwrnod 8: Castell Carreg Cennen Castle i Fethlehem
Man gorffen: Llangadog (SN 699286)
Pellter:16 km / 10 milltir
Dringfa: 280m / 920ft
Anhawster: Hawdd
Amser 4 awr
Mae diwrnod wyth yn fyr a’r un lleiaf heriol - addas iawn gan ei bod hi’n ddiwrnod olaf ar y Llwybr! Os ydych chi am fentro dringo un copa arall, dargyfeiriwch ychydig tuag at Drichrug, ac oddi yno fe welwch chi olygfeydd gwych - Pen y Bicws i’r dwyrain, Garn-Goch i’r gogledd, a Chapel Gwynfe hyd at y Mynydd Du i’r de.
Mae’r llwybr yn mynd drwy ganol Bryngaer Oes Haearn Garn-Goch sy’n dyddio’n ôl i 300CC. Credir mai dyma’r Fryngaer Oes Haearn mwyaf yng Nghymru. Mae’r daith yn gorffen ym mhentref Bethlehem, sy’n enwog am ei Swyddfa Bost - tŷ preifat erbyn hyn. Fodd bynnag, mae Swyddfa’r Post rhan-amser wedi ei lleoli yn hen ysgol y pentref. Mae’r lle’n ferw o brysurdeb adeg y Nadolig, pan fydd pobl yn tyrru yno i bostio’u cardiau Nadolig gyda marc post Bethlehem arnyn nhw.
Cyfarwyddiadau:
O faes parcio Carreg Cennen, ewch ar hyd y ffordd nes i chi ddod at Castle View, yna trowch i’r gogledd ar hyd y trac amlwg. Mae’r trac yn parhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain nes iddo newid yn llwybr, i’r gogledd o Gilymaenllwyd. Dilynwch y marciau-ffordd drwy’r caeau, nes ail-ymuno â’r ffordd - dilynwch hon am tua 1.5km i’r groesffordd. Ewch yn syth yn eich blaen, a chroesi camfa ar y dde i chi. Mae’r llwybr sydd wedi ei farcio’n glir, yn mynd drwy’r caeau ac i mewn i Goedwig Carreglwyd, gan ddisgyn a chodi wedyn i’r dwyrain, drwy’r coed at Fwlch y Gors. Oddi yma, byddwch yn mynd ar i lawr eto drwy gaeau ar hyd trac.
Byddwch yn ymuno â ffordd yn Garn Wen. Yna, ewch tua’r gogledd a’r gorllewin yng nghyffordd y trac i fyny at Garn Goch - bryngaer yr Oes Haearn gyda golygfeydd godidog dros Ddyffryn Tywi ar un ochr, a’r mynyddoedd ar yr ochr arall. Oherwydd ei safle amlwg, bu pobl yn byw yno yn yr oes a fu - o leiaf ers yr Oes Efydd. Ewch ar i lawr tua’r gorllewin drwy’r Gaer Fach (bryn gaer arall) i’r maes parcio.
O’r maes parcio, trowch i’r dde wrth y ffordd, yna ar ôl tua 1km, yn union ar ôl pasio’r capel, trowch i’r chwith a mynd ar lwybr sy’n arwain at bentref Bethlehem.
Cymerwch ofal yma gan fod y lonydd yn gul iawn!
O Fethlehem, ewch am y gogledd-ddwyrain, ar y ffordd tuag at Langadog. Yna ar ôl 800m, fe welwch chi arwydd llwybr ceffyl i’r chwith i chi, cyn cyrraedd y tai – dilynwch y llwybr hwn. Mae’r daith yn parhau ar draws llwybrau, traciau a ffyrdd, gan droelli’n hyfryd i lawr at Felindre. Croeswch y bont a thrwy hyfrydwch Comin Sawdde i Langadog, a chyrraedd yr A4069 sydd gyferbyn â’r Eglwys. Gallwch weld y mynyddoedd yn y pellter, a myfyrio ar y daith odidog rydych chi wedi ei chyflawni. Trowch i’r chwith ar y briffordd, ac ymlaen at Orsaf Reilffordd Llangadog, a diwedd Llwybr y Bannau. Mae llety, siopau a llefydd bwyta yn Llangadog, neu gallwch ddal trên i fyny neu i lawr y lein.