Skip to main content

Cod Cŵn ar Gyfer Bannau Brycheiniog

Mae’r mwyafrif llethol o berchnogion cŵn yn bobl gyfrifol ac yn dilyn y cod cŵn, peidiwch â bod ymhlith yr ychydig sy’n anghyfrifol.

Mae Baw Cŵn yn lledaenu clefydau!

Gallai eich ci gael neu ledaenu clefydau angheuol o ganlyniad i faw ci heb ei godi.
Gofalwch am eich cyfaill blewog drwy godi baw eich ci a’i roi yn y bin sbwriel cyhoeddus agosaf neu fynd ag ef gartref – bagiwch a binio’r baw.
Mae cynhwysydd y gallwch ei gau’n dynn yn ddefnyddiol i ddal bagiau baw, gan nad ydych yn arogli’r baw!

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma:

Llyngyr!
Gofalwch am iechyd eich ci drwy ddilyn rhaglen reolaidd i gael gwared â llyngyr - gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am lyngyr ac ynghylch sut mae dod o hyd i filfeddyg yn lleol, ar gael yma:

Cadwch fi’n agos!
Mae’n naturiol fod eich ci am redeg a bod yn fusneslyd, ond gall hyn fod yn beryglus i’ch ci ac i bobl eraill!
Os nad yw eich ci yn ufuddhau pan fyddwch yn galw arno oherwydd ei fod wedi cynhyrfu, gofalwch eich bod yn ei gadw’n ddiogel ar dennyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Anifeiliaid yn pori:
Os gwelwch anifeiliaid yn pori neu os gwyddoch eu bod gerllaw, cadwch eich ci’n ddiogel ar dennyn hyd nes y byddwch mewn man clir. Os bydd gwartheg neu geffylau yn rhedeg ar eich ôl, gollyngwch eich ci yn rhydd oddi ar ei dennyn.
Mae cynghorion ynghylch sut mae cadw eich ci, a chi’ch hun, yn ddiogel pan fo anifeiliaid yn pori yn y cyffiniau ar gael yma.

1 Mawrth tan 31 Gorffennaf:
Gofalwch fod ein Bannau Brycheiniog yn lle diogel i anifeiliaid sy’n agored i niwed, ynghyd â’u rhai bach, drwy gadw ar y llwybrau a mwynhau mynd am dro gyda’ch ci ar dennyn pan fyddwch mewn mannau agored yng nghefn gwlad neu pan ofynnir ichi wneud hynny.
Mae cŵn rhydd sy’n cael rhedeg oddi ar y llwybrau yn gallu achosi trafferthion drwy gydol y flwyddyn.

Mae cyngor ynghylch sut mae gofalu am eich ci ac anifeiliaid eraill yng nghefn gwlad ar gael yma:

Mae Baw Cŵn yn lledaenu clefydau!

Mae baw cŵn yn gallu achosi dallineb, yn enwedig ymhlith plant.
Ni fyddech yn ystyried rhoi cig yn eich bin compost nac ychwaith yn gadael i faw eich ci ddistrywio eich lawnt, felly gofynnwn ichi beidio â difrodi ein safleoedd cefn gwlad mwyaf godidog.
Mae codi baw eich ci yn un o'r prif gyfrifoldebau sydd gan berchnogion cŵn, yn enwedig mewn mannau cyhoeddus. Gallwch wynebu dirwyon sylweddol os nad ydych yn codi baw eich ci.
Beth am leihau’r cwynion am gŵn a’u perchnogion yn eich cymuned leol chi drwy ofalu nad oes baw cŵn yn eich mannau cyhoeddus.

Gwybodaeth am eich ci a llyngyr:
https://www.bluecross.org.uk/pet-advice/intestinal-worms-dogs

Os nad oes gennych filfeddyg eisoes, neu os ydych yn ymwelydd, mae gwybodaeth am filfeddygon lleol ar gael yma.

Cefnogwch yr economi wledig a ffermio ym Mhrydain drwy godi baw eich ci pan fyddwch yn mwynhau yn y parc.
Cyngor y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol yw:
Gall baw cŵn achosi clefydau difrifol mewn defaid drwy halogi porfa (sef prif ffynhonnell fwyd defaid) a dŵr. Mae gadael baw cŵn ar dir pori yn gallu trosglwyddo llyngyr a pharasitiaid i gŵn eraill, defaid a bywyd gwyllt, felly mae codi baw eich ci yn y wlad cyn bwysiced â’i godi yn y dref. Gan fod wyau llyngyr a pharasitiaid yn gallu byw yn y ddaear am amser maith (hyd at dair blynedd yn achos rhai mathau!) mae’n hollbwysig eich bod yn codi baw eich ci hyd yn oed mewn caeau lle nad oes anifeiliaid fferm yn pori ynddynt ar hyn o bryd. Hefyd mae’n bwysig sicrhau bod eich ci yn cael triniaeth gwaredu llyngyr drwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal ag achosi effeithiau annymunol megis amharu ar y golwg a symptomau niwrolegol, gall y clefydau a drosglwyddir i ddefaid drwy faw cŵn fod yn angheuol. Gall rhai clefydau achosi i gig y ddafad gael ei gondemnio, gan olygu nad yw’r anifail yn werth dim. Mae defaid yn asedau gwerthfawr, felly mae colli dafad neu werth cig y ddafad yn ergyd ariannol sylweddol i ffermwr.

 

Cadwch fi’n agos!

Er mwyn osgoi diflastod a gwrthdaro pan fyddwch yn mynd am dro, dangoswch eich bod yn berchennog cyfrifol drwy atal eich ci rhag mynd at farchogion, beicwyr, neu bobl eraill a’u cŵn yn ddiwahoddiad – nid yw pawb yr un mor gyffyrddus neu’r un mor hyderus â chi pan fo ci’n agos. Y rheol gyffredinol yw eich bod yn cadw’r ci ar dennyn os na allwch ddibynnu arno i fod yn ufudd.
Cofiwch, gall ffermwr saethu ci sy’n rhedeg ar ôl anifeiliaid fferm neu sy’n ymosod arnynt, a hynny heb reidrwydd o gwbl i ddigolledu perchennog y ci.

Anifeiliaid yn pori:

Os bydd gwartheg neu geffylau yn rhedeg ar eich ôl chi a’ch ci, mae’n fwy diogel ichi ollwng eich ci oddi ar ei dennyn – peidiwch â’ch rhoi eich hun mewn perygl drwy geisio diogelu eich ci. Bydd eich ci’n llawer mwy diogel os gadewch iddo redeg o’r ffordd, a byddwch chithau’n llawer mwy diogel hefyd.
Mae’r Cod Cenedlaethol ynglŷn â mynd â chŵn am dro yn cynnig cynghorion ynghylch bod yn DDIOGEL pan fo anifeiliaid fferm a cheffylau yn y cyffiniau:
• Oedwch, edrych a gwrando cyn mynd i mewn i gae; byddwch yn ymwybodol o unrhyw                anifeiliaid sydd yno
• Cadwch eich ci ar dennyn byr bob amser
• Chwiliwch am y ffordd fwyaf diogel o amgylch yr anifeiliaid, gan roi digon o le iddynt, a defnyddio llwybrau neu dir mynediad lle bo modd
• Os ydych yn gweld bod bygythiad ewch o’r man yn gyflym ond heb gynhyrfu, gan ryddhau eich ci er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ac i’ch ci gyrraedd man diogel
Mae dolen gyswllt at y Cod Cenedlaethol ar gael yma.

 

1 Mawrth tan 31 Gorffennaf:

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid ichi sicrhau bod rheolaeth effeithiol ar eich ci fel nad yw’n aflonyddu ar anifeiliaid fferm neu fywyd gwyllt nac yn eu dychryn. Mae’n rhaid ichi gadw eich ci ar dennyn byr ar y rhan fwyaf o diroedd agored ac ar diroedd comin rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, ynghyd â gwneud hynny bob amser gerllaw anifeiliaid fferm.
Mae’r PDSA yn cynnig cyngor da yma:
https://www.pdsa.org.uk/taking-care-of-your-pet/looking-after-your-pet/puppies-dogs/countryside-walking-with-your-dog
Mae adar sy’n nythu ar y ddaear a’u cywion yn hynod o agored i niwed rhwng mis Mawrth a mis Medi, ac maent o’r golwg gan amlaf. Mae cadw ar y llwybrau pan fyddwch ar dir agored, a sicrhau bod unrhyw gemau yn cael ei chwarae ar hyd y llwybr (pan fo’n glir ac yn ddiogel i chwarae gemau), yn helpu i ddiogelu’r adar hyn.
Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr RSPB):
Mae adar sy’n nythu ar y ddaear yn hynod o agored i unrhyw aflonyddu. Efallai y cânt eu gorfodi i gilio o’u nythod, gan adael yr wyau neu’r cywion yn y golwg. Mae’r rhan fwyaf o adar yn nythu rhwng mis Mawrth a mis Medi, felly mae aflonyddu ar adar sy’n nythu yn tueddu i fod yn llai o broblem y tu hwnt i’r cyfnod hwn.
Fodd bynnag, mae aflonyddu ar adar yn gallu bod yn broblem y tu hwnt i’r cyfnod magu hefyd, yn enwedig yn ystod tywydd oer. Mae ar adar angen cadw eu hegni hyd y gallant, felly mae presenoldeb ci yn gallu aflonyddu ar adar ac achosi iddynt wastraffu egni gwerthfawr ar adeg pan fo’n anodd dod o hyd i fwyd.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf