Skip to main content
Distance icon

Pellter
2.7km / 1.68milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SN950084
Postcode CF44 0SX

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 awr 30 mun

1

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Parking icon

Dewch i ddarganfod cornel gudd o’r Parc Cenedlaethol drwy grwydro ar hyd yr hen dramffordd hon rhwng Penderyn a Hirwaun. Cewch gyfle arbennig i wylio bywyd gwyllt wrth chwilio ar yr un pryd am olion o wreiddiau diwydiannol y llwybr. Taith gerdded graddfa 2 yw hon: Llwybrau sydd â rhai rhannau ag wynebau rhydd, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. Mae seddi hefyd.

Of interest

Wrth i chi gamu ar hyd yr hen reilffordd chwarel hwn gyda blodau a choed ar hyd ei ymylon byddwch yn siŵr o glywed cân yr adar yn y gwanwyn a’r haf yn gyfeiliant i fwrlwm Afon Cynon, sef yr afon sy’n llifo gerllaw. Mae’r llonyddwch cymharol heddiw yn bell iawn o’r adeg pan fyddai sŵn merlod yn tynnu tramiau o garreg calch a chraig silica o’r chwareli ym Moel Penderyn i’r gwaith haearn yn Hirwaun ar hyd y lein hon, a adeiladwyd yn y 1780au. Byddai’r sŵn ym 1904 wedi bod hyd yn oed yn fwy byddarol pan ddaeth trenau stêm ac yna rhai disel i ddisodli’r ceffylau. Beth am baru eich ffôn gyda Llwybr Llafar Hirwaun a gwrando ar y straeon am ysbryd William Bryant – a fu unwaith yn weithiwr yng Ngwaith Haearn Hirwaun (ar gael yn Saesneg yn unig).

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf