Llwybrau haws
Mae'n Parc Cenedlaethol yn le arbennig iawn sy’n cynnig amrediad eang o weithgareddau er mwyn eich galluogi chi i gael y math o ymweliad y dymunech. Mae’r dirwedd yn amrywiol, ac mae’r llwybrau’n croesi gwahanol fathau o dir. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n galed i dynnu ymaith rwystrau diangen megis camfeydd ac i osod gatiau hawdd i'w agor a’u cau yn lle, pan fo’n addas. Mae’r Awdurdod hefyd yn gwella wyneb rhai llwybrau, lle mae’r amgylchiadau a’r dirwedd yn caniatáu.
Mae’r Awdurdod hefyd yn darparu gymaint o wybodaeth a phosibl er mwyn eich galluogi i ddewis y llwybr gorau ar gyfer eich chwaeth a’ch anghenion. Golyga hyn ein bod ni wedi graddio llwybrau o 1 i 5 ac ar y cyfan llwybrau gradd 1 a 2 fydd yn addas i chi os oes angen cymorth arnoch i symud pellter.
Gradd 1 | Llwybrau sydd heb rwystrau, nemor dim goleddau ac arwynebau solet neu wedi’u cywasgu. Hefyd mae seddi.
|
Gradd 2 | Llwybrau gyda rhai rhannau gydag arwynebau ychydig yn rhydd, ychydig o oleddau a gatiau ond dim camfeydd. Mae ychydig o seddi.
|
Chwiliwch trwy ein llwybrau am lwybrau gradd addas.