Cerrig Cerddi a Mainc Ffordd Cambria
Yn adnabyddus hefyd fel yr A470 mae Ffordd Cambria’n rhedeg ar hyd asgwrn cefn Cymru ac mae’n rhannu Bannau Brycheiniog yn ddwy rhwng Aberhonddu a Chefn Coed y Cymer. Mae’n mynd trwy rhai o rannau mwyaf trawiadol a chofiadwy y Parc Cenedlaethol.
Go brin y cewch gwell brofiad nag ysgubo ar hyd y troeon hir wrth i chi deithio i fyny neu i lawr Glyn Tarell. Mae’r dyffryn hwn, yn ei wisg o lystyfiant amrywiol, yn eich atgoffa o rym y rhewlif a’i naddodd tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw gallem sefyll neu eistedd a syllu ar ei brydferthwch wrth i ni edrych i lawr y dyffryn o darddiad Afon Tarell jest i’r gogledd o Storey Arms i le mae’r afon yn llifo i mewn i Afon Wysg yn Aberhonddu. Mae tramwyo dros y bwlch ym Mlaen Taf ac ysgubo i fyny neu i lawr Cwm Taf Fawr rhwng llethrau Fan Fawr a Phen y Fan, heibio cronfeydd dŵr Beacons, Cantref a Llwyn-onn yn brofiad yr un mor wefreiddiol.
I rai pobl, llwybr i deithio ar ei hyd yn unig yw hwn ond gall cael seibiant mewn llecyn a mynd i chwilota, i ffwrdd o faes parcio Pont ar Daf a Phen y Fan fod yn bleser.
Y Cerrig Cerddi
Yn 2020 codwyd pedwar maen mewn llecynnau penodol ar hyd Ffordd Cambria (A470) trwy’r Parc Cenedlaethol. Naddwyd i mewn i’r talpiau o dywodfaen Pennant Glas cerddi gan Owen Sheers ac Ifor ap Glyn sy’n dathlu’r llecynnau lle mae’r cerrig yn sefyll. Beth am stopio i’w gweld y tro nesa’ ‘dach chi’n teithio’r ffordd yna?
- Pennant Glas yw’r enw a rhoddir i’r tywodfaen sy’n gorwedd ar ben Haenau Glo De Cymru, sef cyfres o greigiau y naddwyd ‘Y Cymoedd’ allan ohonynt dros filoedd o flynyddoedd. Dros amser bydd y wyneb ffres glaslwyd yn newid i frown fel lliw rhwd.
- Mae Owen Sheers yn nofelydd, yn fardd ac yn ddramodydd ac mae’n Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
- Bardd Cenedlaethol Cymru yw Ifor ap Glyn.
Y Fainc Garreg
- Mae David Mackie a ddyluniodd y fainc prydferth sydd yn gwynebu’r olygfa i lawr Glyn Tarell o gilfan Craig y Fro yn byw yng Nghaerdydd.
- Mae’r stribed o gerrig sydd yn ffurfio patrwm saethben ar hyd cefn y fainc yn cynrychioli’r rhewlif a gerfiodd y dyffryn 20,000 mlynedd yn ôl.
- Mae’r brithin brown a’r tormaen cyferbynddail a gynrychiolir yn y mewnosodiadau efydd yn rhywogaethau prin iawn yn y DU ond maent i’w gweld yng Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Crag Cerrig-Gleisiad gerllaw.
- Adeiladwyd y fainc gan Alan Jones a’i fab.
Mae’r cerrig a’r fainc yn rhan o fenter Ffordd Cymru a maent wedi cael eu rhannol ariannu gan Groeso Cymru*.
Cilfan Craig y Fro
- Craig y fro yw’r darren hir sy’n rhedeg tu ôl i’r gilfan fawr gyda’i olygfan gwych. Pe baech wedi sefyll yma miloedd o flynyddoedd yn ôl byddech wedi cael eich amgylchynu gyda rhew oherwydd roedd gan y llecyn yma un o’r rhewlifoedd bychan olaf yn y bryniau hyn. Mae’r gefnen grom o dan y lôn yn ‘farian peiran’ – craig sydd wedi cael ei ailgylchu o’r clogwyn uwchben.
Blaen Taf/Storey Arms
- Cadair Arthur oedd yr hen enw ar Ben y Fan. Pwy oedd Arthur tybed?
- Trwy’r tyllau syllu gallwch weld Craig y Fro – darllenwch y sylw am garreg Craig y Fro
- Rydym yn cyfeirio at y bwlch fel Blaen Taf oherwydd dyma oedd enw’r tollborth a arferai sefyll cyferbyn â Storey Arms, y ganolfan awyr agored.
Cronfa ddŵr ‘Beacons’
- Glan Crew, Crew isaf, Aber Crew a Blaen Taf oedd enw rhai o’r ffermydd a arferai sefyll lle’r gorwedd y gronfa ddŵr
- Cantref yw enw’r plwyf a arferai ymestyn o ochr gogleddol y Bannau i’r ardal hon. Sonnir y talwyd mwy o lwfans i ficer y plwyf er mwyn iddo gadw ceffyl oherwydd roedd rhaid iddo deithio mor bell.
Cronfa ddŵr Llwyn-onn
- Ynysyfelin oedd enw’r pentref a ddiflannodd o dan y dŵr pan grëwyd Cronfa Ddŵr Llwyn-onn.
- Adwaenid y bont dros Afon Taf, a ddiflannodd hefyd o’r golwg fel Pont y Clecs oherwydd dyma’r lle’r arferai pobl leol gyfnewid newyddion.
- Mae’r gronfa ddŵr yn gartref i lawer o fywyd gwyllt gan gynnwys dwrgwn.
*Ariennir y prosiect hwn trwy Raglen Datblygu Wledig 2014 – 2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.