Penwyllt
Mis Cerdded Cenedlaethol
Argymhelliad yr wythnos hon yw Penwyllt gan Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc, Geoparc y Byd-eang UNESCO Fforest Fawr.
Rydym wedi cael llawer o amser yn ystod y misoedd diwethaf i freuddwydio am le yr hoffem ei fforio wedi i ni gael rhywfaint o’n rhyddid yn ei ôl. A wnaethoch chi, fel fi, astudio mapiau neu edrych ar ddelweddau o’r awyr o’r mynyddoedd a’r arfordir gan ddychmygu eich bod yno? Efallai i nodwedd hynod ddal eich llygad a sbarduno’r meddwl? Os gwnaethoch edrych ar Fannau Brycheiniog, efallai i chi sylwi ar gornel hynod o’r Parc Cenedlaethol sydd hefyd ag enw hynod arno.
Dyma i chi Benwyllt – ‘diwedd/ochr y gwyllt.’ Edrychwch yn fanylach ar y lluniau a dynnwyd o’r awyr o’r lle hwn ac mi welwch pam fod y cyn bentref hwn yn haeddu’r enw.
A welwch chi chwyrliadau a chwyrliadau llwyd, mewn ‘môr’ gwyrdd? A welwch chi linellau, rhai’n llydan, eraill yn gul, yn wyrdd ac yn croesi’r dirwedd? A welwch chi arwyneb creithiog – tyllau mawr a bach? A welwch chi wasgariad o adeiladau, rai ohonynt â tho ac eraill yn adfeilion?
Beth welwch chi yw ‘palimpsest.’ Yn wreiddiol, roedd y gair gwych hwn yn golygu deunydd fel memrwn neu lechen y byddai modd ysgrifennu arno a’i ddileu, dro ar ôl tro. Wrth ddarllen y neges ddiweddaraf, gallwch bob amser ddod o hyd i olion o negeseuon cynt. Dyma yn wir yw tirwedd Penwyllt a’i gefnwlad – llinellau a haenau sy’n rhan o’r dirwedd heddiw ac sydd wedi’u gosod dros nodweddion yr oesau a fu sydd wedi’u gosod dros rai hyd yn oed yn hŷn ac yn y blaen.
Mae’r chwyrliadau yn haenau toredig ac onglog o galchfaen a graeanfaen o’r Oes Garbonifferaidd. Maent yn perthyn i gyfnod dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ô a dyma ran fwyaf hynafol y palimpest! Mae llawer o’r ardaloedd llwyd yn balmentydd creigiog, rhai’n galchfaen, eraill yn raeanfaen ac mae’r mwyafrif ohonynt yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu. Er mor wych yw’r lluniau hyn o’r palmentydd calchfaen o’r awyr, mae rhannau gorau’r warchodfa hon i’w gweld o dan y ddaear. Mae’r ‘OFD,’ fel y mae ogofwyr yn ei alw yn un o ogofau dyfnaf Prydain(2674.5m) ac yn un o’r hiraf (dros 50km.) Dilynwch un o’r llinellau gwyrdd tonnog ac mi welwch mai dyma Ffordd y Bannau – rydych yn dilyn llwybr yr ogof. Mae nifer o’r olion creithiog yn gysylltiadau rhwng y golau a’r tywyllwch. Maent yn llyncdyllau ac mae nifer ohonynt o wahanol feintiau. Mae eraill yn hen chwareli a oedd yn gysylltiedig â’r gweithfeydd brics tân ac mae eu holion yn dyst i ddegawdau o ddiwydiant yn y lleoliad anghysbell a heddychlon hwn. Mae amryw o’r llinellau eraill yn olion hen reilffyrdd, tramffyrdd neu lethrau – llwybrau cerdded gwych sy’n croesi’r dirwedd anwastad.
Mae’r manylion diweddaraf yn gadael ôl llawer yn llai ar y dirwedd. Mae’r pamffledyn – ‘Geo-lwybr Penwyllt’ yn disgrifio taith gerdded gylchol trwy’r lle hwn o Barc Gwledig Craig-y-nos , i lawr yn y cwm. Gallwch ddatgelu stori’r lle hwn trwy bori yn ei hanes ac yn hanes y cynfyd..
Lawr-lwythwch Geo-lwybr Penwyllt yma neu casglwch bamffledyn ym Mharc Gwledig Craig-y-nos neu yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol.
Pan fyddwch chi allan yn cerdded, cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel.