Coedwig Taf Fechan (Owl’s Grove), ger Merthyr Tudful
Mae Coedwig Taf Fechan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, taith fer yn unig o Ferthyr Tudful a chymoedd De Cymru.
Cewch ddarganfod y goedwig heddychlon hon ar ein llwybr cerdded ar lan yr afon sydd wedi’i arwyddo o faes parcio Owl’s Grove.
Mae mainc bicnic wrth ymyl y maes parcio.
Llwybr Taf Fechan
- Gradd: Cymedrol
- Pellter: 1¼ milltir/1.9 cilomedr
- Amser: 45 minud
- Gwybodaeth am y llwybr: Croeswch y ffordd o’r maes parcio i fan cychwyn y llwybr. Mae’r llwybr yn cynnwys rhannau anwastad a mwdlyd, darn byr am i lawr drwy’r coed, a rhan o ffordd goedwig. Mae’r llwybr yn wlyb iawn dan draed ar ôl tywydd garw – gwisgwch esgidiau priodol. Mae mainc ar hyd y llwybr.
Mae’r llwybr cylchol hwn yn arwain trwy goed conwydd tal wrth ochr yr afon fyrlymus gan ddychwelyd i faes parcio ar hyd llwybr trwy’r coetir.
Llwybr beicio pellter hir
Mae llwybr 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn mynd trwy Goedwig Taf Fechan.
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio pellter hir hwn, ewch i wefan Sustrans.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Coedwig Taf Fechan yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cau a dargyfeirio
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Sut i gyrraedd yma
Lleoliad
Mae Coedwig Taf Fechan 9 milltir i’r gogledd o Ferthyr Tudful.
Mae yn Sir Powys.
Map Arolwg Ordnans (AO)
Mae Coedwig Taf Fechan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.
Y cyfeirnod grid AO yw SO 048 162.
Cyfarwyddiadau
O Ferthyr Tudful, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn tuag at Reilffordd Mynydd Aberhonddu.
Ewch ymlaen heibio’r orsaf reilffordd ac yna, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r dde ar y cyffordd T i gyfeiriad Tal-y-bont ar Wysg.
Dilynwch yr arwyddion am Dal-y-bont ar Wysg ac mae’r maes parcio ar y dde.